BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Aelodau'r cwmniDathlu 25 mlynedd
Gorffennaf 04
Cwmni sydd wedi arloesi am 25 mlynedd a rhoi Aber ar y map


Er ei sefydlu ym 1979 mae StrataMatrix wedi ymwneud ag ymron â phob agwedd o fywyd Cymru ac mae'r cwmni wedi bod yn rhan o amryw o'r datblygiadau allweddol sydd wedi cymeryd lle yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf wrth i Gymru ailddarganfod ei hun.

Does dim dwywaith i StrataMatrix arloesi dros y blynyddoedd yn arbennig yn y defnydd creadigol o'r Gymraeg ym myd cyfathrebu.

Yn ôl Cadeirydd a sylfaenydd y Cwmni, Wynne Melville Jones, y nod o'r cychwyn oedd llanw bwlch drwy ddarparu gwasanaeth cyflawn proffesiynol a deallus yn ddwyieithog ym maes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata.

"Roeddem yn arloesi yn 1979 am mai ni oedd y cwmni Cymraeg cyntaf yn y maes ond roedd yn gyfnod o gyffro yng Nghymru yn sgîl dros ddegawd o ymgyrchu brwd a lwyddodd i ddenu mwy a mwy o sylw a hawliau i'r iaith Gymraeg.

Mae'n anodd dychmygu heddiw, ond roedd yr hinsawdd yn wahanol iawn ar ddiwedd y saithdegau a hynny yn y dyddiau cyn sefydlu S4C, cyn deddfwriaeth y Ddeddf laith a chyn i fawr o neb freuddwydio y byddai yna gamau sylweddol wedi eu cymryd i sicrhau Cynulliad Cenedlaethol i lywodraethu'r wlad yng Nghaerdydd.

Roeddem ni y pryd hwnnw yn gorfod perswadio'n cleientiaid i ddefnyddio'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

'Fel mae Cymru wedi newid a datblygu mae StrataMatrix wedi ymateb ac wedi bod yn hyblyg i addasu a newid i ateb gofynion newydd dros y blynyddoedd", medd Wynne.

Fe gyrhaeddodd y Cwmni garreg filltir arbennig yn 2002 drwy gael eu cynnwys o fewn yr 20 uchaf ar restr y cwmnïau twf "Fast Growth Top 50".

Er i StrataMatrix dyfu ac esblygu ac agor swyddfa yn y Bae yng Nghaerdydd y mae'r pencadlys yn dal yn Aberystwyth ac yn sicr mae wedi cyfrannu at roi Aber ar y map.

"Rydym ar un olwg yn cael y gorau o ddau fyd ond mae cadw'r brif swyddfa yn Aberystwyth wedi bod yn bolisi bwriadol sy'n rhan bwysig o'r rheswm dros ein llwyddiant", medd Wynne.

O greu delweddau, hyrwyddo negeseuon, cynhyrchu taflenni, posteri a hysbysebion, monitro gwleidyddol a lobïo, trefnu digwyddiadau, mynychu arddangosfeydd a sioeau ym Mhrydain ac Ewrop, bwydo straeon i'r wasg a'r cyfryngau, llunio adroddiadau, cyflwyniadau, mae'r cyfan a mwy yn rhan o waith beunyddiol StrataMatrix.

Mae gan y Cwmni dîm o bobl yn Aberystwyth sy'n treulio'r diwrnod yn cribo'u ffordd drwy holl bapurau newydd sy'n cael eu cyhoeddi yn Nghymru, 120 ohonynt, er mwyn darparu gwasanaeth monitro'r wasg i gleientiaid ledled y wlad.

Cig, caws, dŵr, sment, crefydd, amlosgfa, yr amgylchedd, ysbytai, llyfrau, colegau, gwyliau banciau, ffermio, hyfforddi, gwestai, diwydiant, elusennau, datblygu economaidd, cadwraeth, gwleidyddiaeth, iechyd, chwaraeon, fferyllfeydd, archfarchnadoedd, telegyfathrebu, hyfforddiant, llyfrgelloedd, teledu, ymgyrchoedd cymunedol, pwerdai meysydd a oedd i gyd yn rhan o weithgaredd StrataMatrix dros y chwarter canrif ddiwethaf.

Mae'r amrywiaeth yn fawr, mae'r cyffro mor fyw ag erioed a hynny yn bennaf am fod gan y Cwmni dîm arbennig o bobl yn gweithio yn y swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd.

Ac am y dyfodol. "Wel, creu mwy fyth o gyffro am y chwarter canrif nesaf a cheisio cael mwy a mwy o bobl i ddeall beth yn y byd yw PR", yn ôl Wynne Melville Jones.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy