A dweud y gwir, ma' rhai pethe wedi newid ond, ar y cyfan, ma' llawer yr un peth. Gadewais Ynyslas i fynd i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain i wneud gradd B.Mus., ac o Lundain i Gaerdydd i wneud PGCE.
Arhosais yng Nghaerdydd am 12 mlynedd a joio pob eiliad o fyw yna, a chanu gyda Chôr y BBC yn fy amser hamdden. Dysgais mewn pedair ysgol gynradd yn ardaloedd Pontypridd ac Ystrad Mynach, tra roedd yr hen foi (well i mi sôn amdano - Clive Davies, o Benparcau, fy ngŵr annwyl ers un ar ddeg mlynedd bellach) yn gweithio ar y ddesg chwaraeon gyda'r Western Mail.
Yna, yn 1999, penderfynom ni, mewn eiliad chwannen, i werthu ein cartref yng Nghaerdydd a symud adre a gwneud rhywbeth hollol wahanol - rhedeg gwesty bach. Ar ôl adnewyddu'r tŷ yn gyfan gwbl, a oedd yn dipyn o job credwch chi fi, agorwyd drysau Gwesty Bodalwyn yn Queen's Avenue, ym mis Ionawr 2001. Sôn am panic! Roedd yr ofn yn ddigon i gadw ni ar ddihun am ddyddie.
Un ar ddeg mis yn ddiweddarach ganwyd ein merch gyntaf, Caitlin Mia, a 2 flynedd a 3 mis wedyn cyrhaeddodd ei chwaer fach, Molly Elinor. Roedd hi'n ddipyn o sialens ymdopi gyda gwesty, dau blentyn bach a Clive yn gweithio fel swyddog gwybodaeth gyda'r Comisiwn Coedwigaeth.
Erbyn hyn, ma' pethe wedi setlo. 'Wi dal i golli Caerdydd ac yn dianc yn ôl bob cyfle gaf, yn bennaf i ganu gyda chôr y Beeb nawr ac yn y man, a siopa wrth gwrs! Ond a fyddai'n symud nôl i Gaerdydd? Mae wedi cymryd wyth mlynedd i mi ateb y cwestiwn yma a'r ateb yw, na, dyma lle fyddaf nawr. Ma' edrych ar y môr yn y gaeaf, pan fydd y llanw i mewn a'r gwynt yn rhuo y tu ôl iddo, wir yn wicked. Ma'r dref yn weddol ddiogel i fagu plant ac yn llawer glanach a mwy iachus na Chaerdydd. Yma mae'r teulu hefyd, yn enwedig annwyl Mam mam, sef Nancy Davies, Penparcau.
Mae rhai pobl yn gofyn os af fi nôl i ddysgu. Dim ffiars o beryg! Mae pob athro/athrawes yn haeddu medal aur bob dydd. Ma'r gwaith yn y tŷ yn gallu bod yn ddiflas ac yn unig - neb arall i sgwrsio gyda nhw'n ystod y dydd, a'r un hen dasgie o ddydd i ddydd, ond jiw, ma'r bobol sy'n dod yma mor wahanol. Ma' rhai yn ffrindie erbyn hyn er bod eu plant wedi hen adael y Brifysgol. Mae'n waith ddi-stop, ond ma' cwrdd â phobol wahanol bob dydd a chael un gair o glod yn werth pob eiliad o'r gwaith caled.
Tybed a fydd Caitlin a Molly yn gadael Aber yn y dyfodol a dod nol? Gobeithio. Yna fyddan nhw hefyd yn gwerthfawrogi does unman yn debyg
i gartre'.
Hilary Davies, Bodalwyn>
Mwy o Aberystwyth