Sefydlydd y siop oedd John Roberts a gwerthwyd tybaco, sigarau ac anghenion ysmygwyr y cyfnod. Hysbysebwyd y siop yng nghyhoeddiadau myfyrwyr y Brifysgol. Yr oedd John Roberts hefyd yn asiant dros y Great Western Railway. Yn ddiweddarach newidiwyd enw'r siop i Lloyd's Tobacconist. Priododd merch John Roberts ag Albert Lloyd, Ffordd Caradog. Heddiw mae'r siop yn nwylo Peter Lloyd. Ganwyd ef yn Aberystwyth ac addysgwyd ef yn y dref ac yn ysgol breifat yng Ngwlad yr Haf. Yr oedd yn berchen siop faco yng Nghaerdydd ond llwyddodd i werthu y siop honno yn ddiweddar. Dywed fod siopau baco wedi dioddef ar ôl y gwaharddiad ar ysmygu mewn lleoedd cyhoeddus ond y mae'n arallgyfeirio ac yn gwneud llawer o waith engrafio. Fe welwch ef hefyd yng nghaffi Prizzi's. Lloyd's The Gift Company yw enw'r siop heddiw. Mwy o Aberystwyth
 |