Mercher, 26 Hydref
Cychwyn o dow i dow o gwmpas hanner dydd. Braf gweld mai Wmffra o'r Ynys oedd yn gyrru'r bws. Siwrnai hamddenol i'r Maes Awyr ym Manceinion. Wedi i ni gyrraedd ambell un yn syllu'n geg agored ar anferthedd y lle. Tri aelod o'r côr sydd heb hedfan erioed o'r blaen! Daeth y peilot allan i'n cyfarfod ni ac aeth Gwynli i'r cockpit i weld y criw yn glanio'r awyren yn Stuttgart am 8.05 yr hwyr. Taith bws wedyn o ryw awr i'r gwesty yn Pforzeim. Ardal ddiwydiannol yw hon. Gwesty cartrefol a chysurus ac ansawdd y bwyd yn
dda.Iau, 27 Hydref Cyfle i fynd ar daith gerdded o gwmpas coedwig Huchenfeld am 10.00 y bore. Roedd nifer o wynebau cyfarwydd ar sgwâr y pentref. Hyfryd oedd cael ymuno â rhieni a phlant Ysgol Llanbedr i gydgerdded un o lwybrau'r Goedwig Ddu. Cawsom daith digon difyr a mwynhau llymaid wrth y byrddau picnic i dorri'r siwrnai - braf iawn. Derbyniad swyddogol gan Gyngor Huchenfeld yn yr Hochfeldhalle am 7.30 yr hwyr. Digon o fwyd i'r côr a chwrw a gwin yn dod i'r byrddau heb i ni ofyn amdano. Cyfnewid anrhegion a chyfle i'r côr ganu tair cân. Mi blesiodd hynny'n fawr. Pawb yn hynod o groesawgar. Gwener, 28 Hydref
Diwrnod braf eto a'r tymheredd dros 70 gradd Cychwyn eto am 8.30 y bore, y tro hwn am daith mewn bws o gwmpas ardal Pforzeim. Cyfle i weld Neuadd y Dref lle'r oedd te a bisgedi ar ein cyfer. Stopio am 11.00 i weld y 'Jewellery World! Pethau neis! A drud! Nifer yn gweld y leitar aur yn fargen am ddim ond £5 a hwnnw wedi ei lapio fel pe bai'n aur go iawn! Yna am 1.00 i weld Mynachlog Maulbronn - y fwyaf i'r Gogledd o'r Afon Rhein. Cyngerdd min nos yn Göbrichen. Neuadd fach dan ei sang a chlapio brwd ar ôl bob cân. Y côr ar ei orau. Derbyniad wedyn - a phawb yn ôl i'r gwesty wedi cael diwrnod arall wrth ein bodd. Sadwrn, 29 Hydref Cyfle i bobl grwydro'r dref ar eu liwt eu hunain a gwneud ychydig bach o siopa. Yr haul yn gwenu'n braf. Cyngerdd min nos yn yr Hochfeldhalle yn Huchenfeld. Roedd rhaid cael cryn dipyn mwy o gadeiriau nag a osodwyd allan. Hwn hefyd yn gyngerdd cofiadwy iawn - yr unawdwyr Roger, Bili, Gareth, Aled, Ieuan ar eu gorau. Felly hefyd Huw Dafydd ar y gitâr, Idris Lewis wrth y piano a Sylfia Campbell, yr arweinydd. Cyfle ar y diwedd i gymysgu a'r bobl leol ac i ganu ambell i gân answyddogol. Sul, 30 Hvdref Pawb yn yr Eglwys fore Sul a phregeth yn sôn am werth canu fel modd i ymlacio a dod â phobl ynghyd. Cawsom goffi a bwyd ysgafn cyn i ni gychwyn ar y diolchiadau niferus. Gadael am Heathrow ganol pnawn. Gorfod aros ychydig mwy na'r disgwyl yn y fan honno cyn dal yr awyren am Manceinion. Cyrraedd yn ddidramgwydd am 10.00 yr hwyr, ond heb gês Sylfia. Cyrraedd Ardudwy oddeutu 1.00 y bore. Pawb wedi blino ond wedi mwynhau a phawb wedi gwneud ffrindiau newydd. Taith fythgofiadwy.
Hoffwn ddiolch i'r Côr am y fraint o gael bod gyda nhw ar y daith i'r Almaen. Roedden nhw a'u harweinydd, Sylfia Campbell, yn glod i'r ardal ac i'w gwlad. Bydd gennyf sawl atgof melys am y daith, am y gwmnïaeth, ac am y lletygarwch a ddangoswyd tuag atom. Da iawn chi Gôr Ardudwy. Edwina Evans Cofiwch fod y côr yn dal i chwilio am aelodau newydd. Beth amdani?
 |