Enw: Rhodri DafyddCefndir: Wedi byw yn Nyffryn Ardudwy drwy gydol fy oes. Es i'r Ysgol Feithrin yn y Dyffryn, wedyn i'r Ysgol Gynradd yn y pentre cyn mynd i Ysgol Ardudwy ac wedyn i Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau i wneud y Lefel A. Oddi yno, es i Brifysgol Cymru yn Aberystwyth i wneud gradd mewn Rheolaeth Cefn Gwlad, ac wedi graddio symud i Fangor i wneud cwrs Meistr. Wedi wyth mis o waith ar Ynys Môn cefais gynnig swydd yn Nolgellau gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, a dyma neidio ar y cyfle i ddychwelyd i Feirionnydd!
Hoff le: Copa'r Moelfre, efo'r môr o'm blaen, y Rhinogydd y tu ôl i mi, a dim byd ond awyr las uwchben.
Hoff liw: Glas.
Hoff fwyd: Cinio dydd Sul o gig oen a thatws rhost, llond y bwrdd o lysiau, efo digon o saws mint dros y cyfan! Tarten afalau nain a chwstard i ddilyn - bendigedig!
Hoff ddarn o gerddoriaeth: Record hir 'Endtroducing' (Dyna'r sillafiad cywir!) gan DJ Shadow.
Pa adeg o'r dydd sydd orau gennych: Y gwyll, ar ddiwrnod braf. Mae 'na rywbeth tangnefeddus am yr adeg hwn o'r dydd.
Pa fath o ganu fyddwch chi'n ei hoffi: Dwi'n ffan enfawr o'r 'Super Furry Animals' ac wedi eu gweld yn chwarae'n fyw dros ugain o weithiau bellach. Mi fyddai'n mynd i dipyn o 'gigs' Cymraeg yng Nghaernarfon a Bangor, mae cerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn ddiddordeb mawr. Rwyf hefyd yn trio canu Bas yn y Côr Meibion!
Beth ydych chi'n ei gario efo chi? Waled, goriadau, ac, yn anffodus, sbectol erbyn hyn!
Hoff amser o'r flwyddyn: Mae 'na rywbeth da i'w ddweud am bob tymor, ond dwi wrth fy modd efo'r ychydig ddyddiau rhwng 'Dolig a'r flwyddyn newydd, amser i ymlacio a meddwl am y flwyddyn a fu a'r un sydd i ddod.
Hoff anifail: Dwi'n reit hoff o'r hen dylluan.
Beth wnaech chi efo £5,000? Ei roi mewn cyfrif banc er mwyn gallu prynu tŷ yn yr ardal un diwrnod efallai! (Ond ai o ddim yn bell iawn mae gen i ofn!)
Sut ydych chi'n hoffi treulio eich oriau hamdden? Pa oriau hamdden?! Mae'r amser yma o'r flwyddyn yn brysur dros ben gan fod byd natur ar ei anterth - rwy'n gwneud tipyn o waith gydag adar ac ystlumod, yn arbennig gyda'r nos. Rwy'n hoff o gerdded a beicio mynydd, ac yn ceisio syrffio. Rwyf hefyd yn ysgrifennydd i Gymdeithas adarydda Ted Breeze Jones, yn aelod o Gymdeithas Edward Llwyd ac yn hoff o ddarllen pan ga i gyfle.
Pa atgofion sydd gennych o fod yn yr ysgol? Atgofion melys ar y cyfan - dwi'n cofio clywed yr eithin melyn yn clecian y tu ôl i ysgol Dyffryn yn yr haf, y mes ar iard yr ysgol yn yr hydref, a'r iard yn rhewi ambell waith yn y gaeaf, a phlant yn llithro i lawr at y wal yn y gwaelod!
Pryd ac ymhle y buoch chi hapusaf? Pan yn fachgen bach heb unrhyw gyfrifoldebau, a phob diwrnod yn rhyfeddod! Roedd y mis a dreuliais yn teithio Canada gyda Mair fy nghariad hefyd yn gyfnod hapus dros ben.
Pwy ydych chi'n ei edmygu yn yr ardal hon? Pawb sy'n weithgar yn cadw cymdeithas Gymreig Ardudwy yn fyw, tasg ddiddiolch ac ar brydiau digalon yn wyneb y mewnlifiad.
Pwy yw eich arwr? John Muir (1838 - 1914) - gŵr o'r Alban yn wreiddiol, ond a ymfudodd gyda'i deulu i'r Unol Daleithiau ym 1849. Ar ôl blynyddoedd yn crwydro ac yn astudio byd natur yng ngogledd America, aeth ati i ysgrifennu nifer o lyfrau o'i atgofion a'i deithiau ym myd natur. Ef a blannodd had sefydlu Parciau Cenedlaethol cyntaf y byd yn yr Unol Daleithiau, syniad oedd yn chwyldroadol ar y pryd. Gŵr arloesol.
Beth sy'n eich blino chi neu yn eich gwylltio chi? Pobl amharchus, difeddwl, a chul. A gyrwyr gor-araf!
Tasech chi'n mynd allan i ginio, pwy fase'n cael dod efo chi? Ffrindiau ffraeth Felinheli, cyfeillion y Tŷ Coch yng Ngholeg Aber, a Twm Elias a'i straeon lliwgar! (Gwell fyddai gwadd Mair draw o Ganada hefyd, rhag i mi bechu!)
Beth fyddech chi'n ei gael i fwyta? Fy hoff fwyd, siŵr iawn!
Sut y buasech yn disgrifio'ch hun ar hyn o bryd? Digon hapus am wn i, ond yn bryderus am gymdeithas yn gyffredinol, ac enciliad y diwylliant Cymraeg a'r diffyg parch tuag at yr amgylchedd yn arbennig.