BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Dafydd JonesLlwyddiant
Ionawr 2009
Longyfarchiadau i Dafydd Jones, 28 Glan Ysgethin (gynt o'r Ynys) am gwblhau cwrs mewn astudiaeth cyfrifiaduron ac ennill Tystysgrif Lefel 2.

Y cam cyntaf oedd gwneud cwrs sylfaenol mewn cyfrifiaduraeth yng Ngholeg Brenhinol y Deillion yn Henffordd.

Gan ei fod yn gyn-aelod o'r lluoedd Arfog yr oedd yn gymwys iddo gael mynd yn ei flaen i wneud astudiaethau ehangach dan ofalaeth adran addysg Sant Dunstan yn Sheffield.

Dafydd oedd y cyntaf o'r adran a lwyddodd ar y safon uchel yma, a dywedodd ei diwtor ei fod wedi gwneud yn arbennig o dda yn enwedig o ystyried ei amhariaeth gweledol a'i fod yn gorfod gwneud pethau yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol mewn ffordd hollol anarferol.

Gartref yr oedd yn rhaid gosod meddalwedd arbennig yn ei gyfrifiadur er mwyn iddo allu trosglwyddo peth a welir ar y sgrin yn lleisiol.

Gyda hwn mae wedi trafod pob agwedd o Swyddfa Microsoft, integreiddio dogfennau electronig a chyfathrebu electronig.

Ar hyn o bryd mae'n gwneud ychydig o waith cyfrifiadur gartref i gwmni o Fangor a hefyd gwaith gwirfoddol ym Mhorthmadog.

Mae'r hyn mae Dafydd wedi ei gwblhau'n esiampl i ni sydd gyda llai o anabledd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy