| Wedi ei farwolaeth, dechreuodd staff yr ysgol godi arian i greu gardd goffa yn deyrnged i Mr Davies a chyn bo hir roedd y gymuned i gyd yn rhan o'r prosiect. Roedd Mr Davies yn uchel ei barch ac roedd pawb yn yr ysgol a'r gymuned yn ei hoffi.
Yn ogystal â bod yn athro Busnes, dechreuodd gwrs newydd arloesol "Cwricwlm Amgen" yn dysgu ar faterion y tu allan i'r cwriciwlm ac astudiaethau academaidd, a threfnu teithiau yn aml. Dywedodd Mrs Sharon Vaughan "Ar ôl i Huw farw roeddem fel ysgol eisiau gwneud rhywbeth arbennig i'w gofio ac rydym yn hapus iawn gyda'r ardd.
"Rydym yn falch bod cynifer o bobl wedi
gweithio ar y prosiect- athrawon, y cyhoedd, disgyblion a hyd yn oed cyn-ddisgyblion a ddaeth i helpu. Mae'n dangos pa mor boblogaidd oedd Huw." Reg Chapman a gynlluniodd yr ardd gyda chymorth disgyblion yr ysgol ac agorwyd yr ardd yn swyddogol gan Suzanne Davies, gwraig Huw ar 4 Tachwedd.
 |