| Darllenodd Lois Adams a Stuart Davies ddarnau o'u gwaith creadigol ar gyfer TGAU a chafwyd cyflwyniad dramatig gan Bethan Hughes a Llywela Woolway. Pob blwyddyn mae Ysgol Ardudwy yn nodi cyfraniad a chryfderau ei disgyblion yn y Cofnod Cyrhaeddiad a fydd yn sylfaen werthfawr ar gyfer cyflwyno eu hunain i golegau neu ddarpar gyflogwyr yn y dyfodol. Roedd y seremoni yn ddigwyddiad o ddathlu llwyddiannau ar y naill law ond yn fater o dristwch ar y llaw arall bod gyrfa disgybl yn Ysgol Ardudwy wedi dod i ben wedi pum mlynedd. Roedd rhieni, ffrindiau, llywodraethwyr a chymwynaswyr Ysgol Ardudwy yn bresennol a bu cryn sgwrsio yn ystod y wledd a baratowyd gan staff y gegin yn dilyn y cyflwyniad. "Mae'r seremoni cofnodi cyrhaeddiad bellach yn uchafbwynt yng ngyrfa disgybl yn Ysgol Ardudwy. Mae'n gyfle i ni ffarwelio a dymuno'n dda i'n pobl ifanc mewn cyflwyniad urddasol. Mae hefyd yn adlewyrchu ein parch tuag atynt ac yn gyfle i ni ddiolch iddynt am eu cyfraniad i'r ysgol," meddai'r Dirprwy, Elfyn Vaughan Jones.
 |