| Golff yw gêm Llion ac mae'n chwaraewr ifanc llwyddiannus iawn. Mae'n aelod allweddol o dîm Golff dan 16 Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ac mae wedi bod yn aelod pwysig o dîm Golff Gogledd Cymru dan 16 am ddwy flynedd. Yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Ardudwy, nid golff yn unig âi a'i fryd. Roedd hefyd yn chwaraewr rygbi brwd ac yn aelod gwerthfawr o'r tîm athletau. Daeth yn ail am daflu'r waywffon yng Nghystadleuaeth Ysgolion Eryri. Yn ogystal, treuliai ei amser hamdden yn hyfforddi'r disgyblion iau mewn athletau. Yn wir, mae'n parhau i gyfrannu i'r ysgol trwy gynorthwyo gyda hyfforddi'r tîm rygbi. "Roedd Llion yn esiampl i'r disgyblion iau ac rydym yn falch dros ben o 'i lwyddiannau " meddai'r Prifathro, Tudur Williams. Cynigir y wobr er cof am Elfed Evans, cyn ddisgybl ac athletwr o fri.
 |