Ar 14eg o Dachwedd 2001, gadewais i Trem Enlli, Llanaber am Manceinion, i gychwyn ar fy nhaith bell i Perth, Awstralia am flwyddyn. Hedfan o Heathrow i Dubai, ac ar ôl 22 awr, cyrraedd Perth am hanner nos.
Yno i fy nghroesawu, roedd Garry Ash, diolch i Shan a Dic, Ty Cerrig, am drefnu hyn. Treuliais yr wythnos gyntaf gyda Garry a'i deulu yn Sorrento; felly cefais ddechrau da. Yna symud i hostel yn Scarborough, lle wrth y traeth ac yn agos i'r ddinas a'r tymheredd yn 30C, felly dim achos cwyno!
Diwrnod Dolig gwahanol
Roeddwn yn treulio fy amser yn crwydro o amgylch y ddinas ac ar hyd yr arfordir, digon o ymlacio ar y traeth a dod i arfer hefo'r tonnau anferth yma. Cyn troi rownd, roedd hin Nadolig, a bum yn lwcus iawn i gael mynd at Garry Williams a'r teulu o Bermo. Daeth Garry i fy nôl ar y motobeic yn y bore, a chefais hwyl yn chwarae efo'r plant. Yn ôl wedyn i'r hostel erbyn min nos a chael barbeciw ar y traeth, efo wyth o bobol o Siapan. Diwrnod Nadolig go wahanol!
Roedd y pres yn diflannu'n sydyn, felly roedd hi'n amser i fi chwilio am waith. Symud 300km i'r de o Perth i dref fechan yn y wlad o'r enw Donnybrook; ardal gwin a ffrwythau. Gweithio yma mewn gwinllan, casglu afalau a nectarin am bum wythnos mewn tywydd braidd yn boeth, 35-49C!
Cwrdd â dau fachgen o'r Iseldiroedd a chael cyfle i deithio gyda nhw mewn car. Mynd nôl drwy Perth a chychwyn fyny yr arfordir orllewinol a stopio yn y Pinnacles(200Km). Lle od iawn hefo creigiau fel pileri yn dod allan o'r ddaear ym mhob man. Ymlaen i fyny drwy Geraldton(424Km), tre lle maer trigolion yn dibynnu ar y môr i wneud eu bywoliaeth, yn arbennig pysgota cimwch. Ni welais erioed ffyrdd mor syth o'r blaen, weithiau ddim yn gweld car arall am oriau, a hawdd mynd i gysgu wrth yrru.
Wedyn i Monkey Mia(380Km), ger Denham, lle byd enwog i weld y dolfflns a chyfle i'w bwydo. I fyny wedyn drwy Carnarvon (100Km), ardal tyfu bananas a ffrwythau sitron.
Coral Bay nesaf, lle poblogaidd iawn i fynd allan ar Ningaloo Reef(200Km) un o'r basgreigiau gorau yn y byd a lle mae'r Whale Sharks yn dod bob blwyddyn. Pob math o forgwn o gwmpas - Tiger Sharks, Great Whites a Reef Sharks - felly mae angen nofio yn y llefydd cywir! Fyny wedyn i Exmouth (150Km) man arall poblogaidd i weld y basgreigiau, nofiais allan tua 600m i longddrylliad a snorclo yno - roedd bob math o bysgod lliwgar yn byw yno a gwelais ambell i reef shark. Ar y traeth gwelais forloi eliffant 4m o hyd.