BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Gerallt RhunFfarwelio â Mr Rhun
Gorffennaf 2003
Wedi saith mlynedd yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Talsarnau, mae Mr Gerallt Rhun wedi penderfynnu ymddeol yn gynnar.

Dywed fod ganddo un neu ddau o bethau y mae'n dymuno eu gwneud, ond fydd o ddim yn gadael byd addysg yn llwyr mae hynny'n rhyw gysur i'w gydathrawon.

Fel y gwyr y cyfarwydd, y mae'n athro wrth reddf ac yn weithiwr caled a chydwybodol. Llawer tro y gwelwyd y golau ymlaen yn yr ysgol yn hwyr y nos with iddo ddal ati gyda'r gwaith gweinyddol, a hynny ymhell wedi i'r plant ymadael.

Llawer tro hefyd y'i gwelsom yn rhoi ei amser hamdden i fyny er mwyn mynd â'r plant i wersyll, ar daith gerdded, neu i weithgareddau eraill y tu allan i'r dosbarth.

Sicrhaodd ei fod yn trwytho'r plant ym mhethau gorau byd addysg, yn arbennig mewn agweddau cymdeithasol a diwylliannol.Cafwyd sawl sioe gofiadwy gan y plant yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol a sawl buddugoliaeth yn eisteddfodau'r Urdd. Roedd graen bob amser ar gyflwyniadau'r plant yn ei ofal.

Wnaeth o ddim anghofio 'chwaith eu cynnydd academaidd. Sicrhaodd safonau uchel yng ngwaith y plant ar draws y cwricwlwm.

Mae gan Gerallt Rhun orwelion eang lawn fel addysgwr. Bu'n teithio Ewrop bob haf er mwyn dysgu mwy am sut y mae athrawon mewn gwledydd eraill yn ymarfer eu crefft. Gwnaeth hynny'n amlach na heb ar ei gost ei hun. Dengys hynny faint ei ymroddiad i'w waith.

Gwyddom hefyd ei fod yn boblogaidd iawn at y cyrsiau hyn oherwydd ei gyfraniad i sawl seminar. Mae parch iddo hefyd ar y cyfandir oherwydd ei allu i gyflwyno cân a cherdd mewn achlysuron cymdeithasol, a hynny bob amser gyda graen arbennig. Yr unig anhawster gai'r tramorwyr oedd ynganu ei enw!

Ffrwyth un o'r teithiau hynny oedd y penderfyniad diweddar i greu cyswllt agosach gydag ysgol yn yr Iwerddon. Nid oes angen manylu ar yr holl les sy'n codi o wneud hynny. Daw plant i adnabod eu bro eu hunain yn well wrth ei gyflwyno i blant eraill ac mae'n rhaid iddyn nhw ddysgu cymysgu, cyfarch, cydadweithio, cydymddwyn a chydweithio - a llu o bethau eraill.

Hoffem ddymuno'n dda iawn i Gerallt with iddo adael yr ysgol, a diolch yn gynnes iawn am yr ymroddiad cwbl arbennig a gafwyd ganddo yn ystod ei gyfnod wrth y llyw yn Nhalsarnau. Diolch iddo hefyd am gofio mor driw am ddeunydd i lenwi colofnau'r Llais.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy