BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Y criw yn ymarferGalw Genau Goeg!
Chwefror 2006
Mae'n gyfnod cyffrous a phrysur iawn i griw Prosiect Drama Theatr Ardudwy'r dyddiau yma, gan y byddant yn agor gyda'u cynhyrchiad 'Genau Goeg' ar Ddydd Gŵyl Dewi (Mawrth y cyntaf).
Mae'r criw ifanc, sy'n hanu o ysgolion uwchradd Ardudwy, Moelwyn ac Eifionydd, yn cyfarfod deirgwaith yr wythnos i drafod, paratoi ac ymarfer cynhyrchiad newydd sbon.

"Sut fedrai actio bod yn flodyn?", "Os dwi'n gath, sut fath o symudiadau a stumiau cathaidd fedra'i neud?"

"Rhaid i lais Genau Goeg fod yn llysnafeddog a mwdlyd" - dyma'r math o gwestiynau a sylwadau a ystyrir yn gwb1 normal a naturiol yn ystod yr ymarferion!

Yn y gweithdai a gynhaliwyd ers mis Medi diwethaf, bu'r bobl ifanc yn datblygu eu sgiliau perfformio yn ogystal â chynnig a rhannu eu syniadau am themâu a chymeriadau. Felly, ffrwyth llafur y cydweithio cyson fu rhwng Carys, Mair a'r bobl ifanc yw Genau Goeg.

Yn ogystal â'r criw o ddeugain fydd yn perfformio ar y llwyfan, mae tîm o bobl ifanc ac oedolion yr ardal yn cynorthwyo ac yn gweithio tu ôl i'r llenni ar agweddau angenrheidiol eraill sydd eu hangen i lwyfannu cynhyrchiad, fel y gwisgoedd, set a chelfi, cerddoriaeth ac agweddau technegol.

Felly dewch i gefnogi ieuenctid yr ardal drwy ddod i weld y criw dawnus a brwdfrydig yn perfformio ar lwyfan Theatr Ardudwy, yn sicr, mae gwledd yn eich aros.

Llwyfennir cynhyrchiad yn Theatr Ardudwy ar y 1af, yr 2il a'r 3ydd o Fawrth. Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar (01766) 780667 i archebu eich tocynnau.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy