BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Carreg fedd i wyrion William GriffithY Goeden Gwsberis
Mawrth 2005
gan Margaret Griffith Salisbury
Atgofion Margaret Griffith Salisbury am ei bywyd cynnar yn yr Efail, Talybont yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel yr adroddodd i'w theulu yn yr Unol Daleithiau ym 1941.
Cymerodd un o'i phlant nodiadau o'i hatgofion ac ysgrifennodd lyfr bach o'r enw 'Under the Gooseberry Tree' er cof amdani. Bu farw Margaret ym 1943 yn 83 oed.

*******************

Yng Nghymru, mae rhieni yn dweud wrth eu plant bach eu bod wedi cael hyd iddynt oddi tan y goeden gwsberis. Ac felly y dywedodd Nyrs Mari Griffith, y ddynes fyddai'n edrych ar ôl fy Mam yn ystod genedigaeth ei phlant.

Dw i ddim yn meddwl fy mod wedi bod yn fabi tlws iawn oherwydd i mi glywed un o ffrindiau fy Nhad yn dweud mewn hwyl, y dylai fod wedi fy rhoddi i ffwrdd am fy mod mor hyll!

Cefais fy ngeni ar 18 Ionawr 1860, y nawfed plentyn o unarddeg a anwyd i William Griffith y gof a'i wraig. Roeddem yn byw mewn pentref bach o'r enw Talybont, ger Dyffryn. Yr oedd ein tŷ ni wedi ei leoli mewn gardd nobl hefo blodau lliwgar yn tyfu i fyny'r waliau. Hyd ochrau'r llwybr tyfai coed gwsberis a chwrens cochion a duon. Ym mhen draw'r ardd roedd meinciau wedi eu gosod. Yma fyddai'r teulu a'r cymdogion yn cyfarfod ar nos Sul ar ôl gwasanaeth yr hwyr i ganu. Ymhellach draw yr oedd yr efail lle fyddai fy Nhad a'm brodyr yn gwneud gwaith i'r ffermwyr ac i'r tirfeddianwyr yn yr ardal.

Yr oeddwn yn hoff iawn o fy Nhad. Yr oedd bob amser mor garedig. Pleser mawr i mi oedd sefyll wrth ddrws yr efail a gweled y gwreichion yn llenwi'r awyr a chlywed tinc y morthwyl ar y metel fel y byddai'n gwneud pedolau neu deiars dur i olwynion trol.

Yn aml byddai Mam yn mynd â ni i lan y môr a byddem yn cael picnic yno. Hefyd yn chwarae ar y tywod ac yn casglu cregyn amryliw.

Dydd Sul oedd diwrnod gorau'r wythnos. Cyn lleied o waith yn cael ei wneud ac a oedd yn bosibl.

Paratowyd y cinio mewn crochan petryalog haearn yn mesur dwy droedfedd o hyd a throedfedd o led. Dodwyd y cig yn un pen, ac yn y pen arall roedd y pwdin. Uwchben y cig, ar fachyn, roedd rhwyd yn dal tatws a rhwyd ar y pen arall yn dal llysiau eraill. Dodwyd y caead dros y cyfan a'r tegell i hongian o'r tsiaen. Wedi hyn byddai fy Nhad yn rhoddi rhagor o goed ar y tân o dan y grochan. Yna byddai'r teulu'n cerdded milltir i'r eglwys, ac ar ôl y gwasanaeth, yna cerdded milltir adref.

Erbyn cyrraedd adref roedd cinio blasus yn barod. Yn y prynhawn cerddai'r plant i'r eglwys eto i fynychu'r Ysgol Sul.

Ar ôl te mi fyddai'r teulu, eu cymdogion a'r plant yn hel at ei gilydd yng ngardd yr efail ac yna fy fyddai fy Nhad yn eu harwain mewn canu emynau.

Yr oedd Mam yn pobi ein bara i gyd. Yn yr ysgubor fe gadwyd casgen o flawd gwyn ac un arall o flawd tywyll a oedd yn frasach na'r blawd gwyn. Pob dydd Gwener byddai Mam yn fy ngyrru i dŷ cymydog i nôl burum ac wedyn, yn y prynhawn byddai yn pobi ac yn rhoddi'r toes mewn tun hir (bara gwyn yn un pen a bara tywyll yn y pen arall). Yn gynnar y bore wedyn byddai Nhad yn codi ac yn golau tân o dan y popty yn ochr yr aelwyd. O fewn rhyw ddwy awr roedd y popty yn ddigon poeth i grasu'r bara.

Nid oedd y bara yn cael ei fwyta am wythnos ar ôl crasu oherwydd fod Nhad yn cael diffyg treuliad ar ôl bwyta bara ffres! I ddweud y gwir roedd sleisen o fara bron a bod yn bryd ar ei ben ei hun. Rydw i'n cofio fel ddoe gweld fy Nhad yn eistedd wrth y bwrdd hir yn y gegin yn bwyta dysglaid o uwd i'w swper.

Erbyn i mi gael fy ngeni roedd amryw o fy mrodyr a'm chwiorydd wedi gadael y cartref. Yr oedd Griffith, y mab hynaf, wedi ei brentisio i siop ddilladach yn y Bermo. Yr oedd fy chwaer, Janet, wedi priodi gŵr o'r Alban ac yn byw yn Lloegr.

Pan oeddwn yn ifanc iawn daeth Janet adre i edrych amdanom. Yn ystod ei gwyliau bu ei gŵr farw yn sydyn ac yn fuan ar ôl hyn fe aeth ei babi bach yn wael efo salwch yr haf a bu yntau farw. O fewn diwrnod neu ddau bu hefyd farw babi bach Griffith o'r un salwch.

Ar ddiwrnod yr angladd fe gliriwyd y dresal yn y gegin i wneud lle i'r ddwy arch. Diwrnod trist iawn oedd hwn yn hanes y teulu. Fe gladdwyd y ddau faban gyda'i gilydd ym mynwent yr eglws (mae'r garreg fedd i'w gweld ym mynwent Llanddwywe yn eithaf agos i dalcen dwyrain yr eglwys ac er fod y tywydd wedi cael effaith arno, mae'n bosib darllen y ddau enw a dyddiadau eu marwolaeth). Pan oeddwn yn ddeg oed aeth Janet allan i Ganada efo fy mrawd William. Mewn amser symudodd i Milwaukee lle y priododd a gwnaeth ei chartref.

Yr oedd fy Nhad yn uchelgeisiol i Mam gael pethau defnyddiol i'r cartref. Ganddi hi roedd yr injan wnïo cyntaf (Wheeler and Wilson) a'r lamp baraffin gyntaf i ddod i Dalybont. Yr oedd wrth ei bodd yn eu dangos i'w ffrindiau. Wedyn fe gyrhaeddodd y mangl - peiriant anferth efo rolyr mawr. Byddai gwragedd y ffermwyr lleol yn dod â'u llieini gorau ati i gael eu smwddio, a finnau yn troi'r handlan.

Byddai pob tŷ yn gwau cyfran helaeth o'u dilladau a'u blancedi - mae blanced wedi ei gwneud gan Mam yn dal gen i. Yn aml byddai merched y pentre yn dod at ei gilydd ac yn casglu gwlân defaid a oedd wedi bachu mewngwrychoedd a drain.

Pan gyrhaeddais dair ar ddeg oed gadewais yr ysgol a mynd i weithio ym Mhentre Mawr lle roedd pobl gyfoethog yn byw. Fy ngwaith oedd edrych ar ôl y plant ieuengaf a chwarae efo nhw. Hefyd, byddwn yn mynd â phecyn bwyd (ee pwdin reis) i'r ysgol i'r ddwy chwaer hynaf. Ar ôl cyfnod byr cefais salwch difrifol a bu rhaid i mi aros yn fy ngwely am wythnosau. Ar ôl i mi wella fe arhosais adre i helpu Mam ac fe aeth fy chwaer Gwen oddi cartref i ddysgu gwniadwaith.

Plas Cors y GedolWedi i mi gael fy mhen-blwydd yn bymtheg oed cefais waith ym Mhlas Corsygedol, Dyffryn. Tŷ mawr crand yn perthyn i deulu o'r enw Colver. Pan fu farw Mr Colver fe adawyd y plas i'w ferch, Mrs Carr, gwraig weddw. Ar ôl ychydig amser fe briododd hithau ddyn o'r enw Mr Coulsen. O gwmpas yr amser y dechreuais weithio yno fe fu farw Mrs Coulsen. Felly dim ond Mr Coulsen oedd ar ôl, ond er hyn yr oedd nifer y gweithwyr yn y plas yn parhau. Roedd fy chwiorydd Janet a Gwen wedi gweithio yno o fy mlaen fel gwniadwragedd.

Fy ngwaith cyntaf i oedd yn y gegin gefn yn golchi llestri. Wedi cyfnod byr cefais ddyrchafiad i'r gwaith o baratoi y llysiau i'r meistr ac i'r staff.

Un diwrnod fe alwodd hogyn y cigydd hefo cig. Gwelodd fasged o domatos ar y bwrdd a gofynnodd i mi os caiff un ohonynt i fwyta. Ar yr adeg yno roeddent yn weddol newydd i'r ardal. Fe roddais un tomato iddo; cymerodd gnoad ohoni, a'i boeri allan fel petai yn wenwyn!

Yr oedd y staff yn cael eu bwyd mewn ystafell wedi ei nodi ar eu cyfer. Ar un pen o'r bwrdd eisteddai y bwtier a'i wraig. Ar y pen arall eisteddai'r ofalyddes. Eisteddai'r gweddill mewn trefn o bwysigrwydd. Un noswaith oer fe gododd yr ofalyddes o'r bwrdd o flaen pawb arall ac aeth i'r gegin. Yna fe safodd a'i phen ôl at y tân a chododd ei sgert sidan. Yn sydyn dyma wreichionyn yn saethu allan o'r tân ac o fewn eiliadau roedd pais yr hen ddynes ar dân. Rhoddodd sgrech mwyaf ofnadwy; wrth fy mod yn ysgafn ac yn gallu rhedeg yn gyflym fe lwyddais i'w chyrraedd yn gyntaf a medrudiffod y tân. Wel, ar ôl hyn, roeddwn yn ffefryn gyda hi. Yr oeddwn yn glyfar am drin gwallt, ac yn medru ennill ychydig geiniogau trwy wneud gwalltiau'r ofalyddes a rhai o'r morwynion.

Lle crand iawn oedd y plas ac felly roedd llawer o ymwelwyr yn dod yno i weld yr arfwisgoedd dur, y tariannau, cleddyfau a'r tapestrïau oedd yn addurno llawer o'r ystafelloedd. Y tu allan roedd y gerddi yn werth eu gweld. Pan fyddai yn amser talu'r rhent roedd y ffermwyr lleol yn cael eu gwadd i'r plas ac yn cael cinio yn ystafell fwyta y staff.

Pob gaeaf fe symudai'r teulu a'r staff i Blas Bella Port yn Sir Amwythig, Lloegr. Roedd hwn yn lle mwy crand na Phlas Cors y Gedol. Yma fyddai Mr Coulson yn derbyn y rhent oddi wrth y ffermwyr Saesneg. Ffermwyr cyfoethog oedd y rhain (roedd rhent un fferm Saesneg cymaint â'r rhenti o amryw o ffermydd yn Nhalybont). Felly, roeddent hwy yn cael eu cinio hefo'r meistr yn y Neuadd Fawr.

Un o'r dywediadau o Sir Amwythig sy'n dod i'r cof oedd 'Good after tea to thee' (ddim yn annhebyg i 'noswaith dda i chwi').

Un diwrnod fe gyfarfais â'r garddwr a'i fab. Dywedodd wrth ei fab 'Isn't she a nice little wenchie?' Yna fe gosodd y mab fi o dan fy ngên a chwerthin. Wel, mi roeddwn yn gandryll o'm cof hefo fo.

Yng nghanol y gaeaf daeth fy amser ym Mhlas Bella Port i ben mwyaf sydyn. Fe'm trawyd yn sâl a bu rhaid i mi fynd adref. Fe aeth y gwas a fi i'r stesion yn y gambo a daeth Mam i'm cyfarfod y pen arall. Yr oeddwn yn bur sâl hefo llid o'r perfedd ond deallaf yn awr mai appendicitis oedd y broblem. Roedd fy ffrind drws nesaf yn dioddef o'r un clwy ond, wrth lwc, mi oedd gennym ddoctor da iawn ac mi lwyddodd i'n gwella ni.

Yn ystod yr haf nesaf, ar ôl i mi wella cefais waith yn y Bermo yn edrych ar ôl bobl ddiarth i Miss Margaret a Mrs Roberts. Pobl gyfoethog fyddai'n aros yma ac yn cymeryd y lle drosodd am gyfnod eu gwyliau gan ddefnyddio eu staff eu hunain. Hwn oedd y lle gorau i mi weithio erioed.

Yn yr hydref, cerddodd Mr Charles Eddington o Harlech i Dalybont a gofyn i mi ei helpu yn ei dŷ yn Harlech. Yr oedd ef yn un o'r Crynwyr. Cefais amser hapus a diddorol yn gweithio yno. Dysgodd Miss Humphreys (chwaer Mrs Eddington) fi i ddarllen Saesneg ac mi ddysgais i hithau ddarllen Cymraeg. Pob noswaith, darllenai adnod yn y Gymraeg a minnau yn darllen adnod yn Saesneg. Ar fy mhen-blwydd yn ddeunaw oed rhoddodd i mi un-deg-chwech ceiniog ac, hefo'r arian prynais Feibl Cymraeg.

Fy ngwaith nesaf oedd yn Altringham ger dinas Manceinion hefo teulu o'r enw Fowden ond ni fuais yno yn hir cyn i mi gael galwad adref. Yr oedd fy chwaer, Gwen, wedi priodi, ac yn gadael cartref i fyw hefo'r gŵr, ac felly roedd yn rhaid i mi edrych ar ôl Tŷ'r Efail. Ar yr un pryd fe symudodd Nhad a Mam i'r Bermo lle'r oedd Nhad wedi ennill contract go fawr. Felly gadawyd fy mrawd Robin yn edrych ar ôl efail Talybont.

Yna fe ddaeth Gwen adref unwaith eto oherwydd fod ei gŵr (llongwr) wedi mynd dros y môr. Unwaith eto gadewais fy nghartref am Fanceinion. Y tro yma cefais swydd hefo teulu o'r enw Mason. Nid oeddwn yn hapus fy lle hefo'r teulu yma oherwydd iddynt fod yn anonest am y gwaith oedd i'w wneud a'r nifer o blant i'w hedrych ar ôl. Felly trefnais i ddychwelyd at y teulu Fowdens yn Altringham. Twrna oedd Mr Fowden ac fe oedd y teulu yn ffeind iawn wrthyf. Gweithiais yna am bedair blynedd ac roedd fel cartref. Rhoddodd Mr Fowden anrheg o Feibl mawr Saesneg i mi, ac mae hwn gennyf byth.

Yn ystod y cyfnod hwn daeth Dwight L Moody i bregethu yn neuadd fawr y ddinas. Gydag ef roedd Mr Sankey. Fo oedd y codwr canu. Dyna olygfa wna'i byth anghofio - pob un sedd yn llawn a phobl yn cerdded i'r blaen i gael eu hachub oddi wrth y diafol. Bu i mi fynd yno sawl gwaith cyn gadael Manceinion.

Yna cefais neges fod fy mrawd John wedi penderfynu ymfudo i'r Amerig. Hwyliodd ar yr un llong â Moody a Sankey. Caethant siwrna llyfn a chyrraedd Efrog Newydd o fewn saith diwrnod. Dywedodd eu bod wedi treulio'r holl amser yn siarad am y Beibl, pregethu, gweddïo a chanu emynau. Roedd yn brofiad bythgofiadwy.

Ar ôl chwe mis gyrrodd am ei wraig, Mary, a'u tri mab ac oherwydd fod Mary yn wael, gofynnodd i mi ddod trosodd hefo nhw. Yr oeddwn yn meddwl y byd o John ac felly cytunais ddod trosodd. Felly, fe hwyliasom ar y llong SS Egypt yn perthyn i'r Allan Line. Cawsom siwrna hir (rhyw bythefnos) ac mi oedd Mary yn sâl am y rhan fwyaf o'r amser. Glaniodd y llong yn Castle Garden, Efrog Newydd ac yno roedd John i'n cyfarfod.Yr oeddwn wedi meddwl dychwelyd adref ar yr un llong ond mi berswadiodd John fi i aros. Lwc fy mod wedi aros oherwydd i'r llong fynd ar dân a suddo ar y siwrna'n ôl.

Roedd John wedi cael gwaith fel saer coed mewn ardal o'r enw Nelson Flats. Ar ôl ychydig amser fe symudodd i Erie, Pennsylvania. Arhosais efo'r teulu am gyfnod ac yna penderfynais fynd i Wifred, Ontario a gweld fy mrawd William a oedd wedi dod yno flynyddoedd yn gynt. Pan fudodd o Gymru yr oedd wedi dyweddïo â merch Gymraeg ac wedi addo y buasai yn dychwelyd adref mewn pedair blynedd i'w phriodi. Yn lle hynny, fe briododd ferch o Ganada ac ni aeth adref o gwbl!

Dychwelais wedyn i Erie at John. Yno cyfarfodais fy mrawd hynaf, Griffith, oedd wedi teithio yno i'm gweld. Arhosais yno am flwyddyn yn gweithio i dalu fy ffordd ac yna penderfynais mynd i weled fy chwaer Janet ym Milwaukee. Tra roeddwn yno, ymaelodais â'r eglwys Gymreig ac yno bu i mi gwrdd ag arolygwr yr Ysgol Sul, Mr Richard Salisbury. Ym 1887 fe briodasom a mudo i Minneapolis ac ymgartrefu yno.

O'm teulu, mae dau arall yn dal yn fyw sef William a Wilfred, yn 90 mlwydd oed a Lizzie yng Nghymru. Dwi wedi meddwl ers talwm fod fy stori ddim yn werth ei dweud, ond dyma hi er mwyn i chi gael gwybod beth a oedd oddi tan y Goeden Gwsberis!

Diolch i Bennett Griffith am yr hanes yma.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy