BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
David PriceHoli Hwn a Holi'r Llall
13 Ionawr 2004
Holi David Price o Harlech, yn y golofn fisol Holi Hwn a Holi'r Llall.
Enw: David Price

Cefndir : Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mab i blismon yn Nyserth a wedyn Penyffordd ger Caer. Ar ôl treulio fy holl yrfa yn Lloegr mi ddychwelais i ymddeol i Harlech.

Hoff le: Does dim dwywaith amdani - Harlech a'r ardal o gwmpas.

Hoff liw: Coch fel ar fynwes robin goch.

Hoff fwyd: Gwledd i bedwar mewn ty bwyta Tseineaidd.

Hoff ddarn o gerddoriaeth: Yr ail gonsierto i biano gan Rachmaninov.

Pa adeg o'r dydd sydd orau gennych:Yn y bore pan rydw i'n llawn o nerth.

Pa fath o ganu fyddwch chi'n ei hoffi?Côr meibion. Dwi'n aelod ffodus iawn o gôr ardderchog 'Cantorion Colin Jones'. Rydan ni'n ymarfer dwy waith y mis ym Metws y Coed.

Beth ydych chi'n ei gario efo chi?Waled, gan gynnwys y cardiau plastig, dipyn bach o arian a goriadau.

Hoff amser o'r flwyddyn?Dwi'n mwynhau bob tymor, ond yn arbennig yr hydref gyda'r lliwiau tlws ar y coed.

Hoff anifail:Pob aderyn bach sy'n ymweld â fy ngardd.

Beth wnaech chi efo £5,000? Buaswn yn ei roi i elusen debyg i 'Ty Gobaith yng Nghymru'.

Sut ydych chi'n hoffi treulio eich oriau hamdden?Yn canu'r piano, yn cyfansoddi, darllen llyfrau Cymraeg (fel Barti Ddu!), garddwriaeth, chwarae golff, a cherdded yn y mynyddoedd.

Pa atgofion sydd gennych o fod yn yr ysgol?

Atgofion hapus iawn. Dwi'n cofio torri ffenestr efo pêl griced a chael tair ergyd ar fy mhen ôl.

Pryd ac ym mhle y buoch chi hapusaf?Pan fum i'n gyrru i weld fy nghyntafanedig, Susan, yng nghartref mamolaeth Stockton-on-Tees. Roeddwn yn canu'n braf ac roedd fy nghalon yn llawen iawn.

Pwy ydych chi'n ei edmygu yn yr ardal hon?Yr arlunydd Rob Piercy o Borthmadog. Mae o'n peintio lluniau hardd iawn.

Pwy yw eich arwr?John F. Kennedy. Dwi'n dal i gofio'n fanwl am ddydd ei lofruddiaeth.

Beth sy'n eich blino chi neu yn eich gwylltio chi?Rhaid i mi fod yn onest, pobl sy'n mynnu bod newydd-ddyfodiaid yn dysgu Cymraeg. Mater i'r unigolyn yw beth y mae'n dewis ei wneud efo'i fywyd. Fy newis personol i oedd dysgu'r iaith.

Tasech chi'n mynd allan i ginio, pwy fase'n cael dod efo chi? Anne, fy ngwraig, wrth gwrs, a'r teulu. Mae gennyf bedwar o wyrion bywiog.

Beth fyddech chi yn ei gael i fwyta?Rhywbeth efo sglodion, a Spotted Dick wedyn efo cwstard.

Sut y buasech yn disgrifio chi eich hun ar hyn o bryd?Yn lwcus, lwcus iawn yn cael mwynhau iechyd da, gwraig annwyl a theulu cariadlon.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy