BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Dudley MaidmentHoli hwn a'r llall
Ionawr 2008
Holi Dudley Maidment am ei fywyd a'i fro.

Cefndir: Cefais fy ngeni ym Mhlas Amherst, Harlech. Roedd fy nhad yn arddwr yno ac roeddem yn byw mewn rhan o'r ty.

Hoff le: Harlech.

Hoff liw: Gwyrdd.

Hoff fwyd: Cig eidion.

Hoff ddarn o gerddoriaeth: Unrhyw ddarn o gerddoriaeth gan y tri thenor sef Luciano Pavarotti, Placido Domingo a Jose Carreras.

Pa adeg o'r dydd sydd orau gennych? Y bore.

Pa fath o ganu fyddwch chi'n ei hoffi? Corau meibion, Ardudwy a Chor Threforys.

Beth ydych chi'n ei gario efo chi? Cyllell boced, arian a goriad y ty.

Hoff amser o'r fwyddyn? Gwanwyn - amser plannu.

Hoff anifail: Ci defaid a chi hela. Pan oeddwn i'n ifanc, byddwn yn saethu cwningod ar y golff efo Dudley Bach.

Sut ydych chi'n hoffi treulio eich oriau hamdden? Garddio a thrafaelio.

Pa atgofion sydd gennych o fod yn yr ysgol? Cofio cymryd rhan mewn cyngerdd ysgol yn y Neuadd Goffa. Hefyd dysgu garddio.

Pryd ac ym mhle fuoch chi hapusaf? Wrth gadw siop bapur (Roslyn) a chael cyfarfod a phobl bob dydd. Ar nos Sadwrn roedd fel Cyfarfod Plwyf yno a methu cael pobl allan o'r siop am naw o'r gloch y nos! Hefyd yn hapus iawn pan oedd fy mrawd Arthur yn fy nghynorthwyo fel post feistr yn Harlech.

Pwy ydych chi'n edmygu yn yr ardal bon? Miss Menna Jones, Bronygraig, sydd yn siriol a diolchgar bob amser er gwaethaf ei hanabledd. Hefyd mae ganddi ddigon o hyder i ddreifio modur.

Pwy yw eich arwr? Y diweddar Barch Gomer Davies a oedd yn pregethu'n dda ac roedd fel un ohonom ni yn ein gweld bob amser a'n cyfarch gyda gwen a hiwmor.

Beth sy'n eich blino chi neu yn eich gwylltio chi? Pobl yn cwyno am bethau bach, dibwys.

Tasech chi'n mynd allan i ginio, pwy fase'n cael dod efo chi? Michael a Susan, fy mab a'm merch a'u teuluoedd.

Beth fyddech chi yn ei gael i fwyta? Cig eidion, tatws a llysiau, a threifl yn bwdin.

Beth wnae chi efo £5,OOO? Buaswn yn hoffi gwyliau yn Normandy a mynd o gwmpas y pentrefi bychain y bum ynddynt yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Sut y buasech chi'n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Digon bodlon fy myd, ac er fy mod yn 93 oed, yn cael iechyd da i fynd allan bob dydd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy