| Bob bore Sul, bydd Kian yn gofyn i gael mynd i'r hen 'dymp' sydd ar y ffordd i Fochras (ac erbyn hyn yn safle picnic) i gasglu sbwriel. Bydd yn mynd hefo'i daid gyda'i sach casglu er mwyn gwaredu'r safle o sbwriel sydd yn hel yno. Mae wedi casglu bob math o bethau yn cynnwys llwyth o boteli cwrw (wrth gwrs), poteli pop, clytiau budron, tronsus budron a sawl pecyn gorchuddio bwyd picnic. Gan nad yw'r Cyngor yn gwneud joban dda yn casglu'r llanast yma, mae yn cymryd plentyn 4 oed i wneud hyn! Gweler Kian yn y lluniau yn casglu'r sbwriel ac yn ei waredu i'r bin
gartref. Dyma beth yw hogyn bach ifanc gyda'r amgylchedd yn uchel ar yr agenda!
 |