BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Canu yng nghyntedd un o ysbytai GalwayTaith y côr i Iwerddon
Rhagfyr 2007
Dyddiadur taith Côr Meibion Ardudwy i Galway a Chonamara.
Dydd Mercher
Cychwyn yn blygeiniol o Ardudwy er mwyn cael bod yng Nghaergybi ar amser. Cwch cyflym Stena yn hwylio am 8.55 a mordaith braf oedd hi. Llawer yn barod am blatiad o frecwast erbyn hynny.

'Cinio gawn yn Kinnegad,' meddai Iwan Morgan sy'n medru cynganeddu, wrth gwrs. Rhai yn cymryd powlen o gawl tra roedd eraill yn ymestyn am ginio rhost!

Cafwyd dau gwis ar y bws i ddifyrru'r amser. Roedd llawer o sgoriau uchel. Idris Lewis a Gareth Jones [Banc] oedd yr enillwyr ar y cwis cyntaf ac roedd Iwan Morgan, Gwynli, Gwen a Ieuan Edwards ar y brig yr eildro a hefyd Huw Dafydd a Rhian a Dafydd a Mair, Faeldref.

Cyrraedd Galway o gwmpas 4.30 a chyfle i bawb ymlacio wedi siwrnai go faith. Gwesty braf a'r staff i gyd yn fynwesol.

Y Gwyddelod yn dathlu Calan gaeaf ac amryw yn cwyno fod 'na sŵn yn y stryd tan oriau man y bore.

Dydd Iau
Pawb yn rhydd drwy'r bore. Y merched wrth eu boddau gan fod yma siopau gwerth chweil. Ymweld ag ysbyty leol dros yr awr ginio a rhoi cyngerdd u rhyw hanner awr. Llawer wedi mwynhau, gan gynnwys aelodau'r côr am fod yna acwstig gwych yn y cyntedd.

Teithio wedyn i gartref henoed a difyrru'r trigolion am rhyw hanner awr. Pawb ond un ohonyn nhw wedi mwynhau! Ond roedd y croeso yn gynnes iawn a'r cyngerdd yn un cofiadwy - er nad oedd y piano gystal yn fan hyn! Roedd y metron wedi plesio'n arw.

Dydd Gwener
Pawb yn rhydd i grwydro. Manteisiodd rhyw hanner dwsin ar gyfle i ymweld ag un o ynysoedd yr Aran. Bu rhai eraill yn cario bagiau i'r gwragedd!

Cyngerdd min nos yn Eglwys St Ffransis ar y cyd â Hoga'r Bonc o ardal Bethesda. Y lle yn orlawn - rhyw 400 yno siŵr o fod. Acwstig gwych eto a'r côr ar ei orau. Bili ac Iwan yn cael derbyniad gwresog iawn a'r diweddglo, ar y cyd â 12 o Hogia'r Bonc, yn wefreiddiol - fel ag yr oedd y cyfle i ganu'r ddwy anthem. Gwerthwyd pob CD oedd gennym ni a Hogia'r Bonc.

Dydd Sadwrn
Diwrnod o ymlacio cyn cychwyn am Eglwys Na Forbacha yn y Gaeltacht lle maen nhw'n siarad Gwyddeleg fel iaith bob dydd. Yr eglwys yma hefyd yn llawn a'r gynulleidfa yn wresog eu hymateb. Ieuan Edwards a Gareth Jones yn swyno fel y gwnaeth Iwan gyda'i gerdd dant a Bili a ganodd un gan yn y Wyddeleg. Cyngerdd gwych arall.

Cyfle i gymdeithasu wedyn a chael tamaid i'w fwyta yn Tigh Pairaicin. Aeth yn gymanfa yn y fan honno am sbel cyn i tachograff Wmffra orfod rhoi taw ar y gyfeddach, a hithuau'n hanner nos!

Dydd Sul
Gadael Galway am 10.30. Paned yn Afulone am 12.30 a chyfle i stopio mewn canolfan siopa [eto fyth] yn Dundrum, rhyw hanner awr o'r porthladd. Y merched wrth eu bodd a'r dynion yn gwneud eu gorau i wenu! Taith gofiadwy arall! Diolch yn fawr i Aled Morgan Jones am ein harwain mor ddeheuig ac i Idris Lewis am ei gyfeilio medrus. Diolch i Wmffra am ei ddreifio gofalus ac i Bili'r conductor prysur. Diolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd i wneud y daith yn un mor llwyddiannus.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy