| Rai wythnosau'n ôl derbyniodd goes ffug ac y mae erbyn hyn wedi dysgu ei hun i gerdded ddigon da i wneud taith noddedig i gasglu arian tuag at yr Ambiwlans Awyr.
Ar 22ain o Ionawr cychwynnodd ar y daith o gaffi 'Goodies' y Bermo i ben draw'r prom ac yn ôl taith o dair milltir mewn awr a banner yng nghwmni ei wraig Delyth. Mae caffi Goodies yn derbyn rhoddion a bydd y cyfanswm yn ymddangos yn Llais Ardudwy mis Mawrth. Hoffai Les ddiolch yn fawr i Ysbyty Gwynedd a Chanolfan Aelodau o'r Corff Wrecsam am eu gofal, i gaffi Goodies am eu cefnogaeth a hefyd i bawb am bob cyfraniad tuag at yr Ambiwlans Awyr.
 |