| Ynghyd â'r dderwen, y fedwen a'r onnen mae'r gelynnen wedi rhoi ei henw i ddegau o ffermydd, tyddynnod a phentrefi, cofiwch Dryweryn. O'r ychydig goed bythwyrdd cynhenid i Brydain, y gelynnen ydy'r fwyaf cyffredin ac mae iddi le arbennig yn ein llên gwerin a'n traddodiad llafar.
Hon sy'n darogan gaeafau caled, hon sy'n sirioli'r silff ben tân, a hon sy'n dod ag anlwc i'r sawl sy'n cwympo coeden gyfan. Ie, hon, gan mai ar y goeden fanw ceir yr aeron, ac er mwyn cael aeron i sirioli'r ardd mae'n rhaid plannu coed gwryw a beinw. Dwy o'r coed celyn mwyaf cyffredin ar gyfer yr ardd ydy Ilex 'Golden King' ac Ilex 'Golden Queen' ac mae'n rhaid bod pwy bynnag a'i galwodd yn 'King' a 'Queen' yn dipyn o dderyn, gan mai'r brenin ydy'r goeden fenywaidd a'r frenhines sy'n gwisgo'r trowsus. Ta waeth am hynny mi fydd plannu'r ddwy yma'n weddol agos at ei gilydd yn sicrhau digonedd o aeron. Ilex aquifolium ydy'r gelynnen gynhenid ac mae'n gallu tyfu'n goeden dros hanner can troedfedd o daldra. Er bod anlwc yn canlyn y sawl sy'n cwympo'r gelynnen, mae'n berffaith ddiogel i'w thocio ac fel dywed geiriau'r gân mae hi'n wrych na ddaw dim trwyddo. Wedi dweud hynny mae angen pwyso a mesur yn ofalus cyn plannu celynnen mewn gardd fach. Tra bo fflam yr aeron a sglein y dail yn wledd i'r llygaid, ddaru pwy bynnag a'i galwodd yn bren canmolus, gweddus a gwiw erioed chwynnu gwely blodau yng nghysgod pren celyn, ac mae'r dail crin hyd yn oed yn fwy pigog na'r dail byw. Ond, mae yna gelyn llyfn eu dail. Mae Ilex 'Camelliifolia' yn un ohonynt, ac fel mae'r enw'n awgrymu mae yna debygrwydd i'r Camelia. Un o'r gerddi gorau i weld casgliad o goed celyn ydy Erddig ger Wrecsam. Gorau oll os gallwch dynnu sgwrs efo Glyn Smith y pen garddwr, dyn sydd a'i frwdfrydedd gymaint â'i wybodaeth. Mae'r coed celyn wedi eu plannu'n rhes syth yn gyfochrog â hen wal frics, golygfa ddymunol iawn. Yma mae dail brithion, aeron melyn a rhisgl pygddu. Prin iawn ydy'r gerddi lle ceir y fath amrywiaeth o goed celyn. Tra'ch bod yn Erddig mae'n werth picio i'r berllan i weld y coed afalau'n drwch o uchelwydd ac oedi wrth y waliau cochion sy'n gartref i'r casgliad cenedlaethol o iorwg. Dyma drindod o blanhigion sy'n goleuo trymder gaeaf; pa syndod bod ein hynafiaid wedi gweld cymaint o arwyddocâd ac addewid yn eu disgleirdeb?
Gerallt Pennant
 |