| Enw: Stewart Jones Cefndir: Plas Amherst rŵan, ond Penrhyndeudraeth yn wreiddiol. Hoff le: Ardal Ardudwy Hoff liw: Coch Hoff fwyd: Cacennau Hoff ddarn o gerddoriaeth: Ora Pro Nobis, Meirion Williams Pa adeg o'r dydd sydd orau gennych? Gyda'r nos Pa fath o ganu fyddwch chi'n ei hoffi? Canu emynau, Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Beth ydych chi'n ei gario efo chi? Hances boced a phwrs. Hoff amser o'r flwyddyn? Gwanwyn Hoff anifail: Ci bach - pwdl o'r enw Sooty, ci fy mam. Sut ydych chi'n hoffi treulio eich orau hamdden? Darllen ac ymgomio. Pa atgofion sydd gennych o fod yn yr ysgol?Hoffi bioleg efo Mrs Hope a garddio efo Mr Alun Williams. Pryd ac ym mhle y buoch chi hapusaf? Ym Mhlas Amherst ers dros flwyddyn. Pwy ydych chi'n ei edmygu yn yr ardal hon?Mr Gwilym Humphreys, Llanfair, sydd yn dod i ymweld â ni yn aml. Pwy yw eich arwr? Cyrnol John Jones, Maesygarnedd Beth sy'n eich blino chi neu yn eich gwylltio chi? Pobl sy'n rhyfela Tasech chi'n mynd allan i ginio, pwy fuasai'n cael dod efo chi? Rhywun o Blas Amherst neu o Harlech Beth fyddech chi'n ei gael i'w fwyta? Paned o de a chacennau Beth wnaeth chi efo £5,000? Eu rhannu rhwng gwahanol elusennau Sut y buasech yn disgrifio eich hun ar hyn o bryd?Yn hapus ym Mhlas Amherst ac ardal Harlech.
 |