BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Y criw fu yn cerddedHer y Tri Chopa
Gorffennaf 2008
Hwyrach i rai ohonoch sylwi ar daflenni noddi taith go arbennig yn siopau'r ardal y wythnosau diwethaf.
Taith oedd hon i gopaon mynyddoedd uchaf yr Alban, Lloegr a Chymru, sef Ben Nevis, Seafell Pyke a'r Wyddfa.

Trefnwyd yr her er cof am Jim Rees, Cae Gwastad, a gynt o Tai Newyddion, yr Ynys, gŵr hynod boblogaidd yn yr ardal.

Cafwyd y syniad o ymgymryd a'r sialens gan David a Peter, meibion Jim, i godi arian at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, fel arwydd o werthfawrogiad am y gofal y derbyniodd eu tad yno.

Ymunwyd a'r hogiau ar y daith gan Angela, partner Peter, a Deborah a Gwynfor, Gwrach Ynys.

Er bod y cerdded yn galed yr orchwyl galetaf oedd gyrru'r 500 milltir rhwng y copaon, ac hynny yn bennaf yn ystod oriau'r nos.

Disgynnodd y cyfrifoldeb i Dic, Tŷ Cerrig a Peter, Llwyn Ffynnon, ac ni fuasai Lewis Hamilton wedi gallu gyrru'n well.

Er y tywydd garw a gorfod dringo Scafell yn y tywyllwch a'r niwl medrwyd cwblhau'r dasg mewn ychydig llai na 24 awr.

Er bod y dasg yn werth ymgymryd a hi fel her, y bwriad oedd casglu arian.

Mae'r swm a godwyd oddeutu £6,000, a dymuna Theresa Rees, gwraig Jim, a phawb o'r tîm ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb o'r ardal fu mor hael yn cefnogi'r fenter.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy