| Mae hyn yn rhyddhau'r ambiwlans ar gyfer achosion brys. Dros 45 mlynedd, mae Glenys wedi cludo cannoedd o gleifion i ysbytai. Gan ei bod yn dod o ardal
Harlech, mae ei chyfraniad yn
arbennig o werthfawr gan nad
yw'n hawdd i'r henoed a'r anabl mewn ardaloedd gwledig gael eu trafnidiaeth eu hunain i'r ysbytai. Mae Glenys yn rhoi tri diwrnod yr wythnos o'i hamser i wirfoddoli, ac mae gan y cleifion feddwl y byd ohoni. Nid dyma'r tro cyntaf i Glenys gael ei henwebu am
Wobr - derbyniodd Wobr Rhagoriaeth yn ddiweddar gan y Gwasanaethau Ambiwlans ei hun. Llongyfarchiadau iddi! Cyflwynwyd tystysgrif i Glenys gan Mr Aneurin Phillips (pennaeth Parc Cenedlaethol Eryri) mewn 'Te Dathlu a Diolch' yn Llanberis yn ddiweddar.
 |