 |
 |
Dydd Sul, 18fed o Fai cefais wahoddiad i ginio yn Graig Isa gan fod mam Moria'n dathlu ei 80 yn fuan, ond pan gyrhaeddais yno doedd yna ddim sôn
am ginio ond sioc o ddeall ein bod yn mynd am dro mewn helicopter. Ymhen pymtheg munud gwelwn hi'n dod o gyfeiriad Llanbedr i fyny'r Cwm. Mynd yn y car i'w chyfarfod ar ddôl Cilcychwyn, roedd pump
ohonom yn mynd ynddi ac wedi cael y gwregys amdanom a gorchudd dros
ein clustiau i ffwrdd â ni. Roedd yn ddiwrnod braf a chlir a phob man ar ei orau a gwahanol liwiau o
wyrdd ar y coed a gweld y Cwm o ongl wahanol, i fyny trwy Ddrws
Ardudwy.
Sylwi ar Lyn Hywel, ac yn Lyn Ybî wrth inni fynd tu ô1 i'r Llethr ac i lawr i gyfeiriad Ganllwyd.
Roedd yr helicopter yn teithio ar 170 milltir yr awr ond roedd yn esmwyth iawn. Gweld Pont Penmaen a
Gwesty'r George ac i'r dde Abaty Vanner a thref Dolgellau, cyn dechrau
dringo dros Gader Idris, ac yn i gyfeiriad y môr i lawr i'r Friog. Mynd ymlaen gyda'r arfordir ac uwch y môr cyn cyrraedd Bermo, a'r dŵr
yn wyrdd golau gyda chlytiau o wyrdd tywyll. Adlewyrchiad o'r cymylau,
medd y peilot. Gweld Ardudwy ar ei orau, a'r waliau cerrig yn werth eu gweld. Dod dros Mochras a Llandanwg ac ymlaen ar gylch dros Portmeirion, yn ô1 dros
Harlech a gweld cip o Lanbedr cyn dod i fyny'r Cwm a'r holl daith mewn llai na hanner awr. Tybed oes yna ardal brydferthach nag Ardudwy yn enwedig ym mis Mai!
A do, mi gawson ginio ardderchog ar ô1 cyrraedd yn ô1.
Gweneira Jones
 |  |  |  |
| 
|