| Cynnig cynllun yr oeddynt ar gyfer pentrefi yr arfordir o Borthmadog i'r Bermo, cynllun celf, ac ni fyddai'r cynllun yn costio dim i'r Cyngor lleol! Roedd yr arian ar gael i greu celfyddyd gain oddi mewn i rwydwaith y llwybr beicio - Lôn Ardudwy, gyda'r nod o uno pentrefi, a chael ymwelwyr ar feiciau i ymweld â'r gwahanol gerfluniau ar hyd y daith, gan ddisgwyl y byddent yn aros ac yn treulio amser a gwario arian yn Ileol yn mwynhau'r golygfeydd. Wrth gwrs mae celf ar gyfer pob un i'w fwynhau neu ei gasáu! Serch hynny, gwelir bod pob cerflun yn unigryw gydag oriau o ystyriaeth wedi eu neilltuo ar gyfer y llunio, ac olrhain hanes lleol. Cafwyd cyfle i weld gwaith nifer o artistiaid, pob un a'i rinweddau unigryw. Rhaid oedd cloriannu, a chael rhestr fer o 3 artist. Y tri yma wedyn yn gwneud ymchwil, ac yn dychwelyd i'r Cyngor ym mis Hydref 2002 gyda'u portffolio ar Lanbedr - hanes drwy lygaid artist wrth gwrs. Dewiswyd gwaith o eiddo hogyn lleol o Benrhyndeudraeth, sef Howard Bowcott. Teitl ei broject oedd: Prennau llongau a llif afon o gerrig. Dewiswyd y cynllun hwn drwy ystyried y deunyddiau crai naturiol a ddefnyddir yn y project, a hefyd bod y gelf i bob pwrpas yn gelfi ymarferol - main/bwrdd. Pwyslais ar bwysigrwydd yr afon yn yr hen amser sydd yma, a phwysigrwydd Llanbedr fel porthladd, a'i gysylltiadau morwrol. Y lleoliad oedd y broblem fwyaf gan bod yn rhaid gosod y celfi ar lwybr Lôn Ardudwy. Gosodwyd un ger y toiledau ar ffurf afon mewn llechi a cherrig or Afon Artro, a mainc ger y Vic ar ffurf bwa llong o dderw. Hyderwn y byddant yn gweddu i'w lle yn daclus yn y pentref, ac y byddant ymhen amser yn rhan annatod o gymeriad y lle. Uchod gwelir y sedd o flaen Gwestyr Victoria, Llanbedr i ddynodi ffordd i feicwyr ac i orffwys am sbel. Man i feicwyr orffwys am eu taith ger maes parcio Bron y Graig, Harlech. Yn y llun hefyd gwelir Louisa Thomas, cyn athrawes gerdd Ysgol Ardudwy, sydd ar fin symud o'r ardal i fyw yn nes at ei merch yng nghyffiniau Llundain - pob lwc i chi yn eich cartref newydd.
 |