| Dechreuwyd yn y bore gyda ras rafftiau ar yr Afon Artro, o'r maes parcio ar y ffordd i lawr i Fochras, i harbwr Pensarn. Y rafft fuddugol oedd 'Jindi 1' a'i chriw sef Llion Williams, Ken Jones, James Hooban a Kevin Jones gydag amser o 18.36 munud. Yn ail daeth enillwyr y llynedd sef 'The likely lads' mewn 18.56 munud, ac yn drydydd daeth 'Avit again' mewn amser o 20.25 munud. Eleni aeth y wobr bwbi i'r 'Tŷ Mawr Titanic' a orffennodd ar ôl ychydig o drafferthion mewn amser o 79.21 o funudau. Go dda, hogia! Parhaodd yr hwyl yn y prynhawn yng Ngwesty'r Tŷ Mawr gyda stondinau, cystadlaethau a barbeciw. Enillwyr y wisg ffansi oedd Elin Haf fel Sali Mali, Jessica, Gwion, Ellis a Dalton fel y Power Rangers, Evie fel dyn gwyllt o'r ogofau, a Kelly, Josh a Rebekah fel 'Winnie the Pooh a'i ffrindiau'. I gloi'r diwrnod cafwyd disgo a charaoce 'Greasemania' yng Ngwesty'r Victoria. Dymuna Cyfeillion Ysgol Llanbedr ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yng ngweithgareddau'r dydd. Diolch arbennig hefyd i'r busnesau lleol a'u rhoddion hael sef Cembrit Blunn a Jewsons, Mr Wynn Hammond 'Knight Movers', Dai a Julie Hughes 'Spar', a Steve Smith 'Tŷ Mawr'. Hefyd i bawb a gyfrannodd rhywbeth tuag at yr achos sef Mr Tutton 'Avon Stores', Angel 'Hair Care Salon', Diane a Cynthia 'Wenallt', Dylan Richards, cigydd, Alun a Siân Gerard 'Swyddfa'r Post Talybont' ac Ellie 'Hen Feudy'. Cafwyd diwrnod gwych a llwyddwyd i gasglu £1500 tuag at brynu bwrdd gwyn rhyngweithiol i'r ysgol leol. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran i wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus.
 |