BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Lawnsio Safle Gwe Gymunedol TalsarnauGwefan gymunedol
Mehefin 2007
Nos Fawrth 15fed Mai trefnwyd cyfarfod i lansio Safle We Gymunedol Talsarnau.
Dros fisoedd y gaeaf bu criw o wyth o bobl leol yn brysur yn meistroli meddalwedd arbennig er mwyn gallu gosod gwybodaeth am yr ardal ar y safle. Gwnaed y gwaith hyfforddi gan Hefin Williams Deudraeth Cyf, fel rhan o'r Cynllun Interreg.

Ers cychwyn y fenter cafwyd cyfraniadau o bob math gan wahanol bobl o'r ardal ac o ffwrdd. Daeth nifer o hanesion difyr, atgofion gan hwn a'r llall, darnau o destun a nifer helaeth iawn o luniau. Rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt.

Daeth nifer dda o drigolion a chyn-drigolion Talsarnau i'r cyfarfod lansio i fwynhau ac i gael rhagflas o gynnwys y safle. Wrth gyflwyno, dywedodd Hefin Williams fod y safle hwn yn unigryw yn yr ystyr mai trigolion yr ardal sydd yn gyfrifol am fwydo gwybodaeth ac i gynnal a chadw a gwneud newidiadau i'r safle yn ôl y galw. Safle we gymunedol yng ngwir ystyr y term.

Ar ôl y cyflwyniad cafodd pawb gyfle am baned a sgwrs ac roedd awyrgylch braf cartrefol yn bodoli a chyfle i'r hen a'r ifanc i rannu a chyd-ymwneud. Yn dilyn cafwyd cyfle ymarferol i edrych ar y safle yn yr ystafell gyfrifiaduron. Braf iawn oedd gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn bresennol ac yn gwbl gartrefol yn trin y peiriannau. Roedd y rhai hyn hefyd yn amlwg yn mwynhau'r profiad a chlywyd sawl ebychiad a sawl ymadrodd pan yn edrych ar yr adran luniau. A sawl gwaith y clywyd "Wyt ti'n cofio ...?"

A dyna mae'n debyg beth o werth y safle. Dwyn yn ôl i gof rai o'r pethau sydd wedi digwydd o fewn ein hardal ni, modd i ddiogelu a chadw y pethau sy'n perthyn i ni, - modd i gyfleu sut bobl ydym ni a beth sy'n ein gwneud ni yr hyn ydym ni yn y rhan hon o Gymru.

Yn ogystal mae hefyd yn fodd i roi sylw i'r hyn sy'n digwydd heddiw, yn gyfle i roi gwybod am ddigwyddiadau o bob math o fewn yr ardal.

Er gwybodaeth, mae dros 37,000 o dudalennau'r safle wedi cael pobl yn edrych arnynt ers inni gychwyn.

Os am gael blas ar gynnwys y safle, ewch i www.talsarnau.cvmru.org


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy