Eisoes mae dros gant o ffermwyr wedi cael hyfforddiant a phrawf NPTC i gyfarfod â rheolau newydd i gludo stoc dros ddeugain milltir a fydd yn dod i rym ddiwedd Ebrill.
Ond yn ogystal â hyn, cafwyd diwrnod diddorol iawn pryd aeth nifer o'r aelodau i ymweld â fferm Alun a'r teulu, Glanmor, Ynys, Talsarnau, i weld dull o ffermio sy'n newydd i'r ardal hon gyda silwair corn a buches o wartheg Salers, sef brid o wartheg sy'n tarddu o'r Pyreneau ac sy'n nodedig am eu gallu i loio'n ddidrafferth a hanes o gadeiriau iach at fagu lloi.
Teimlwyd bod Alun wedi bod yn ddoeth mewn dewis y dull a oedd yn addas i dirwedd y fferm ac yn ogystal yn cadw rheolaeth mor dda ar gostau sefydlog y fferm.
Trwy gynhyrchu silwair o ansawdd da fe welwyd hynny trwy lewyrch arbennig a oedd ar y stoc. Da hefyd oedd gweld y teulu sef Mathew a Sera yn ymddiddori ac yn galondid mawr i ddyfodol cefn gwlad heb anghofio Rhion wrth gwrs. Da iawn, Alun, a diolch i ti am gael dod i weld.
Noson dda a hwyliog arall a gafwyd oedd sgwrs ar 'Gig Lleol a Rheolau' yng nghwmni'r cymeriad Will Lloyd Williams o Fachynlleth.
Mae Will Lloyd (fel yr adnabyddir ef) yn enillwr cystadleuaeth genedlaethol Brydeinig, Community Partnership Award gyda'r Food and Drink Federation ac anrhydeddwyd ef yn Llundain yn 2004. Ac fel y dywedodd, "Gwobr nad yw Mr Tesco na'i debyg wedi ennill erioed."
Soniwyd am hen hanes busnes y teulu lle bu ar un adeg naw o ladd-dai cigyddion ym Machynlleth, a rŵan fo yw'r unig un sydd ar ôl o achos rheolau sydd wedi cael eu meithrin dros y blynyddoedd.
Dywedodd ei fod yn credu yn gryf pwysigrwydd o brynu stoc yn lleol o nifer o ffermydd er mantais i bawb ac oherwydd bod ganddo ladd-dy ei hun nid oedd dim cludiant pell.
Fe soniwyd am un wraig a oedd yn arfer a bod yn llysieuwraig, ond ar ôl deall o le mae'n cael ei stoc mae'n awr wedi troi'n gwsmer.
Ers ennill y wobr gwelodd ei fusnes yn tyfu a chwsmeriaid dros glawdd Offa'n galw heibio i brynu, gyda rhai yn cael eu denu i wneud mwy o siopa yn y dre sy'n gwneud yr effaith o ennill y wobr yn bellgyrhaeddol.
Ond mynegodd ei siom gyda Chyngor Powys nad ydynt yn prynu cig lleol i'w cartrefi henoed, ysbyty nag ysgolion, ond yn warthus yn ei gael o ochrau Henffordd, ond eto'n barod iawn i godi trethi uchel ar ei siop.
Roedd yn credu ac yn rhagweld bod yr olwyn yn dal i droi a bod arwyddion pellach y daw'n ôl ddiwrnod pryd y gwerthfawrogir cynnyrch lleol a safon uchel y siop fach.
DJR.