BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Y faincBwrlwm!
Chwefror 2009
Mae nifer wedi holi'r cwestiwn "Beth mae'r Cyngor Cymuned yn ei wneud yn Llanbedr?"

I ddechrau, mae'r Cynghorwyr i gyd yn ymddiriedolwyr ar y Neuadd Bentref yn LIanbedr.

Ac wrth gwrs mae yma ddau adeilad i ofalu amdanynt yn y pentref. Mae hynny yn ei hun yn dipyn 0 waith, sef cynnal a chadw'r adeiladau hyn mewn cyflwr digonol.

Braf yw cael nodi bydd 2 bopty trydan newydd yn cael eu gosod, un yn y Neuadd a'r llall yng Nghanolfan Artro maes o law.

Mae'r cae chwarae hefyd yn mynd i gael offer newydd ar gyfer y plant lleiaf. Disgwylir y bydd hwn wedi ei osod erbyn y Pasg.

Mae bwrdd hysbysebu newydd wedi cael ei brynu a'i osod ar wal y Wenallt. Mae digon o le arno i hysbysebu gweithgareddau cymunedol.

Gwelir mainc newydd Er Cof am holl Gymwynaswyr ein Cymuned wedi ei gosod ym mynwent yr Eglwys.

Mor amserol gywir yw'r cyfraniad yma gan y Cyngor Cymuned. Mae wedi bod yn aeaf caled iawn a nifer o rai annwyl wedi'n gadael.

Ie, eitha gwir yr hen ddywediad "Gaeaf glas, mynwent fras".

Hyderwn y caiff bob un ohonom gysur o'r fainc yma, a dwyn i go' hen ffrindiau a chymwynaswyr bro rhy niferus i'w henwi, ond yr atgofion amdanynt yn dal yn annwyl yn ein cof.

Materion eraill sy'n codi yn fisol bron yw budreddi cŵn ar hyd y palmentydd yn y pentref. Mae'r arwyddion hysbysebu hefyd i'w gweld ar gynnydd drwy'r pentref, ac yn tueddu i fod yn flêr.

Ceisiadau cynllunio hefyd sy'n achosi cur pen ar lawer achlysur. Ond hyderwn fod barn a safbwynt y Cyngor yn cael ei barchu. Wedi'r cwbl, maent wedi cael eu hethol i gynrychioli'r bobl yn y gymuned.

Ni wneir unrhyw benderfyniad ar chwarae bach.

Mae croeso i bawb fynychu unrhyw gyfarfod.

Cynhelir hwy ar y nos Iau cyntaf ym mhob mis yng Nghanolfan Artro i ddechrau am 7.00 gyda Phwyllgor y Neuadd a'r Cae Chwarae, ac yna i ddilyn gyda'r Cyngor Cymuned. Croeso i unrhyw un ohonoch fynychu'r rhain.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy