Amser i chwilio am waith eto, felly lawr drwy Mission Beach i Innisfail (90Km). Cael gwaith ar fferm bananas, dyma'r gwaith mwyaf ofnadwy dwi erioed wedi'i wneud, roeddwn yn gweithio yn y 'wet season' , felly roeddwn yn wlyb drwy'r dydd - dim cot law, mosgitos ym mhobman, nadroedd a llygod yn rhedeg lawr fy nghefn. Fy ngwaith i oedd cario y bananas i'r trailer ac roeddent yn pwyso rhwng 40-70kg.
Ar ôl rhai wythnosau, dyma gael problem gyda fy nghefn felly rhaid oedd symud ymlaen. Stopio nesaf yn Airlie Beach (556Km) er mwyn mynd i ynysoedd y Whitsundays lle poblogaidd iawn. Euthum ar daith diwrnod ar gwch cyflym, mynd ar un o draethau gorau'r byd a gwneud deif arall ar y reef. Gweithio unwaith eto yn Childers (900Km) yn casglu avocados am dair wythnos, gwaith reit hawdd a digon o hwyl gyda dau fachgen o Iwerddon.
Ymlaen i Harvey Bay (74Km) a mynd am daith tri diwrnod i Fraser Island , ynys dywod fwyaf yn y byd. Roedd wyth ohonom ar y daith - bobl o Israel, Canada, Lloegr a Chymru wrth gwrs.
Gyrru rownd yr ynys mewn Landcruiser 4x4 a gwersylla wrth y mor bob nos - roedd hwn yn un o fy amseroedd gorau yn Awstralia. Aros yn Noose Heads (140Km) am gwpl o nosweithiau, lle cyfoethog gyda llawer o dai haf anhygoel ar gyfer pobl gyfoethog Brisbane a cheir newydd. Parc Cenedlaethol reit braf yno a dau draeth poblogaidd ar bob ochor o Noose Heads , un heb donnau a'r llall yn agored i'r mor hefo tonnau reit fawr. Brisbane nesaf (103Km), dim fy hoff le bwrw bob diwrnod, gaeaf ar y ffordd. Mae'r gwahaniaeth rhwng yr arfordir dwyreiniol a'r arfordir gorllewinol yn anhygoel ac yn hawdd i'w weld yn Surfer's Paradise sydd i'r De o Brisbane.
Yma ar y gold coast' mae adeiladau uchel ym mhobman reit lawr at y traeth. Roedd yn well gen i yr arfordir gorllewinol oherwydd nad oedd wedi cael ei ddatblygu gymaint. Nesaf i Byron Bay (215Km), lle da i ymlacio cael amser da ac hefyd i syrffio. Lawr drwy Coff's Harbour (70Km), lle bach reit braf, gweld y morfilod yn chwarae yn y mor. Ymlaen i Port Maguerie , arfordir gwych, traethau hir - beicio o gwmpas am y diwrnod.
Mynd wedyn ar y bws am Sydney (580Km), teithio dros Bont yr Harbwr a gweld y Ty Opera enwog. Aros yn Bondi, man syrffio enwog yn Sydney a cheisio gweld rhan fwyaf o'r ddinas a gwneud ychydig o waith adeiladu yn Bondi. Cefais waith am bythefnos efo adeiladwr o Lebanon yn gweithio ar fflatiau moethus. Angen gwaith mwy parhaol, felly trefnu gwaith yn Mildura (1074Km) yn Victoria, taith o 17 awr allan a'r draws gwlad mewn bws. Mae Mildura ar ffin Victoria, New South Wales a De Awstralia.
Mae popeth sy'n tyfu yma yn dibynnu ar yr afon Murray, maent yn cynhyrchu gwin, orenau a ffrwyth sych e.e. swltanas. Bum yn gweithio ar wahanol ffermydd yma am 14 wythnos. Mae'r tymheredd yn medru newid 50C hynny yw, -5C yn y gaeaf a 45C yn yr haf, tipyn o wahaniaeth. Roedd Mildura yn un o fy amseroedd gorau hefo criw da o bobl o bob man yn y byd a digon o hwyl hefyd.
Hefo Mam a Dad ar y ffordd drosodd roedd yn amser i fi gychwyn ar y siwrnau nol i Sydney.
Aros noson mewn hostel a mynd i'r maes awyr erbyn chwech o'r gloch y bore. Bron i flwyddyn ers i mi adael y teulu yn Llanaber. Treulio'r wythnos yn Terrigal, 100km o'r gogledd o Sydney ar y Central Coast . Mynd allan i'r Blue Mountains a mewn i'r ddinas. Mwynhau fy amser gyda Mam a Dad a chael ymlacio mewn gwesty yn lle hostel am unwaith, neis lawn. Ar ôl wythnos, roedd Mam a Dad yn hedfan i Darwin ac felly yn amser i minnau fynd i Seland Newydd am flwyddyn!
Wedi teithio 14,390Km ar hyd arfordir Awstralia a gwneud llu o ffrindiau newydd. Gwneud pob math o waith a mwynhau fy hun yn ofnadwy drwy'r flwyddyn.
Cofion at bawb.
Fy nghyfeiriad e-bost yw [email protected]
Cofiwch gysylltu.