| Roedd yn braf iawn gweld oddeutu 100 o aelodau wedi dod ynghyd, a oedd yn cynnwys cysylltiadau teuluol y staff a'r arweinwyr cynnar ynghyd â chadeiryddion a swyddogion eraill yr Undeb yn y Gangen dros y blynyddoedd.
Yn rhan gyntaf y noson cafwyd araith gan Dafydd Wigley ger mynedfa'r Llyfrgell Rydd a mynegodd eiriau caredig am waith yr Undeb fel lobi gref ac annibynnol dros amaethyddiaeth yng Nghymru, ac y byddai'r sefyllfa yn bur wahanol yn y diwydiant amaeth oni bai am y gwaith aruthrol sy'n digwydd. Roedd yn dwyn ar ei brofiad fel Aelod Seneddol ac Aelod o'r Cynulliad a'r cyswllt agos gyda swyddogion yr Undeb yn y siroedd ac yn arbennig yn Y Brif Swyddfa. Wedi hyn, dadorchuddiwyd y plac ac arweiniwyd pawb i'r brif ystafell yn y Llyfrgell Rydd lle roedd lluniaeth wedi ei ddarparu i bawb drwy garedigrwydd swyddogion cylchoedd Merched yr Undeb drwy Feirionnydd ac rydym yn eithriadol ddiolchgar iddynt am y gwaith mawr gyda'r paratoadau.
Roedd y cyfan o'r noson yn cael ei harwain gan ein Cadeirydd Sirol Alun Edwards, Cae Coch, Rhydymain, ac yna aethpwyd ymlaen i estyn croeso ffurfiol i bawb gan gyfeirio'n fanwl at yr holl gadeiryddion a'r staff dros y blynyddoedd gan wahodd y cysylltiadau a'r unigolion i ddweud gair ac edrych yn ôl dros y cyfnod.
Cychwynnwyd hyn gan Elinor Bennett a fu'n adrodd am eu cyfnod yn Llanuwchllyn pan oedd ei thad, y diweddar Emrys Bennett Owen, yn gadeirydd yr Undeb yn sir am ychydig fisoedd cyn ei benodi yn drefnydd llawn amser ac yna'n Ysgrifennydd Cyffredinol. Yn ystod y cyfod yma roeddynt wedi symud i fyw i Aberystwyth, ac roedd ei thad yn teithio llawer iawn i bob rhan o Gymru yn mynychu cyfarfodydd a sefydlu canghennau.
Cafwyd noson hynod ddiddorol gyda chyfraniadau gan nifer fawr, ac roedd yn braf iawn imi gyfarfod ambell wyneb nad oeddwn wedi cael cyfle i'w gweld o'r blaen. Yn ystod hyn i gyd, cafwyd cyfraniadau cerddorol gydag Arfon Williams, Pentre, Cwmtirmynach a'r delynores Eirian Jones o'r Bala yn canu englynion gyfansoddwyd gan Dafydd Wyn Jones, Blaenplwyf, Aberangell, i ddathliad cenedlaethol yr Undeb y llynedd.
Yn ogystal â hyn rhoddwyd cyfle i dorri'r gacen a oedd wedi ei pharatoi yn arbennig ar gyfer yr achlysur, gyda diolch yn fawr iawn yn y cyswllt hwn i Mrs Rhian Jones, Trawsfynydd.
Rhaid diolch hefyd i Dewi Williams, Trawsfynydd am wneud gwaith mor gelfydd a chywrain ar y llechen sydd wedi ei gosod ger y fynedfa i'r Llyfrgell Rydd.
Yn olaf hefyd rhai imi ddiolch i Alun ein Cadeirydd am arwain y noson mor rhwydd a chwbl broffesiynol, a gwneud hyn hefyd mewn modd hwyliog a roddodd naws arbennig i'r noson. Diolch iddo hefyd am ysgwyddo llawer o'r baich cyfrifoldeb o drefnu'r noson, gan ein bod ni yn y swyddfa mor eithriadol brysur gyda'r holl waith oedd ynghlwm wrth y ffurflenni Taliad Sengl dros yr wythnosau diwethaf. Huw Jones
 |