Cychwynnodd o'u cartref Hendre Fawr, Bronaber, Trawsfynydd gyda Glyn, y gŵr, a cherdded i fyny drwy blwy Llawrplwy i gyfeiriad y Rhinogydd. Drwy Ddrws Ardudwy a throsodd i fferm Maes y Gamedd, Cwm Nantcol lle y'u disgwylir yno gan Wil ac Ann a oedd yn diogelu eu beics ar gyfer yr ail ran o'r daith sef beicio o Gwm Nantcol i Ysbyty Dolgellau. Cymerwyd tair awr i gerdded a dwy awr a banner i feicio. Mwynhawyd tywydd arbennig ar y daith a'r golygfeydd o ben Drws Ardudwy a'r Allt Fawr uwchben-Dyffryn yn wefreiddiol. Dymuna Delyth drwy gyfrwng y Llais ddiolch i drigolion Ardudwy am eu haelioni drwy ei noddi. Diolch arbennig i Elinor, Dolafon am ei chymorth i fynd o amgylch i gasglu gyda ffurflenni (gan obeithio y gwnaiff y daith gyda mi tro nesa ... !). Diolch hefyd i Wil ac Ann am warchod y beics i ni. Erbyn hyn rydw i wedi trosglwyddo'r cyfanswm o £1056.60 i gronfa Uned Meirion, Dolgellau. Fel y gwyddoch mae nhad (Ned Thomas neu Ned yr Ynys) wedi bod yn glaf yn yr uned yma ers rhai misoedd bellach a mawr yw ein dyled i'r nyrsys a staff y ward am eu gofal diflino. Manteisiaf ar y cyfle yma i ddiolch i gymdogion a ffrindiau pell ac agos am eu ffyddlondeb, a'u hymweliadau ag ef; rydym fel teulu yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.
 |