| Dyma ychydig o hanes y llyfr: Yn gorwedd dan gysgod gwarchodol y graig fawr, doedd dim arall i alw'r
fferm fechan ond Y Graig. Ond ai lloches ddiogel neu gysgod gormesol
yw'r garreg fawr uwchben y buarth?
Y Graig yw nofel gyntaf yr awdures o Ardudwy a Llanuwchllyn, Haf
Llewelyn. Fe'i lansiwyd mewn noson arbennig yn Nhafam yr Eryrod yn Llanuwchllyn. Wedi ei lleoli ar fferm Y Graig yng nghefn gwlad gogledd
orllewin Cymru, mae dyfodol y fferm yn y fantol wrth i'r genhedlaeth iau
dorri eu cwys eu hunain. Ond, mae yna hefyd lu o gyfrinachau personol gan
sawl aelod o'r teulu, ac yn raddol cant eu datgelu, gan ailgodi creithiau o'r gorffennol sy'n rhoi dyfodol y fferm yn y fantol.
"A dweud y gwir nes i ddim meddwl am ddirywiad cefn gwlad fel cefndir y
stori o gwbl ar y dechrau. Y cwbl nes i oedd meddwl am gymeriadau a sut
oedd cymeriadau mewn un teulu yn gweu trwy'i gilydd, dim ond digwydd
ei gosod hi ar fferm nes i gan mai dyna ydy fy nghefndir i," eglurai'r awdur
a ddaw yn wreiddiolo0 Gwm Nantcol, Ardudwy, lle mae ei brawd yn parhau
i ffermio ar y fferm deuluol. Mae cefndir Haf wedi bod yn adnodd amhrisiadwy wrth iddi fynd ati i
ysgrifennu'r nofel hon sy'n cael ei hadrodd drwy lygaid cymeriad gwahanol ym mhob pennod. Cawn fwrw golwg ar y stori, sy'n digwydd dros gyfnod
o ychydig dros wythnos, drwy lygaid rhai o'r trigolion, o'r hen ŵr, Iori, i
ferch y fferm gyfagos, Alice sy'n adrodd y cyfan yn eu geiriau ei hunain,
geiriau cefn gwlad.
 |