BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Betty JonesBetty Jones
Hydref 2005
Holi Hwn a'r Llall
Atebion Betty Jones, sydd bellach yn byw ar Ynys Môn.
Enw: Betty Jones

Cefndir: Gynt o Henllys, Pentre'r Efail, Harlech. Byw rŵan yn Llanddaniel, Ynys Môn.

Hoff le: Pemnon ar Ynys Môn, Porth Einion, Penrhyn Gŵyr, Cwm Bychan.

Hof fwyd: Cyw iâr, stêc, pavlova mafon!

Hoff ddarn o gerddoriaeth: Hen Wlad Fy Nhadau.

Pa adeg o'r dydd sydd orau gennych: Bore.

Pa fath o ganu fyddwch chi'n hoffi? Roc a rôl, canu gwlad, canu o Batagonia, a chlywed 'bagpipes'!

Beth ydych chi'n ei gario efo chi? Sbectol, pwrs, beiro, goriad y tŷ.

Hoff amser o'r flwyddyn? Gwanwyn, haf a'r hydref.

Sut ydych chi'n hoffi treulio eich oriau hamdden? Darllen, eistedd yn yr ardd yn yr haul, gwylio'r teledu, mynd ar wyliau.

Pa atgofion sydd gennych o fod yn yr ysgol? Rhai hapus iawn, mwynhau mynd ar y trên o Harlech i Ysgol Bermo ac yn ôl!

Pryd ac ymhle y buoch chi hapusaf? Priodi Meic, genedigaeth y plant, cael cerdded ar ôl bron i 2 flynedd mewn cadair olwyn a llawer o driniaeth ar y glun chwith. Diwrnod graddio Heulwen ym Mhrifysgol Abertawe.

Pwy ydych chi'n ei edmygu yn yr ardal hon? Fy ffrind Elenor Jones, Dyffryn Ardudwy, wedi brwydro ers blynyddoedd gyda'r cancr (dal ati, El!)

Pwy yw eich arwr? Fy mab Alan Wyn, sy'n brwydro'n galed yn erbyn afiechyd motor neurone, a byth yn cwyno.

Beth sy'n eich blino chi neu yn eich gwylltio chi? Pobl Gymraeg yn gwrthod siarad Cymraeg!

Tasech chi'n mynd allan i ginio, pwy fase'n cael dod efo chi? Y teulu, lot o ffrindiau, a Bryn Fôn yn adloniant!

Beth fyddech chi'n ei gael i fwyta? Cinio dydd Sul neu stêc, a phwdin neis.

Beth wnaech chi efo £5,000? Ymweld â Venice, a mynd yn ôl i Batagonia am wyliau.

Sut y buasech yn disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn hapus iawn yma yn Ynys Môn efo Meic ond yn drist yn aml ar ôl colli Ioan, y mab, 21 mis yn ôl. Rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, yn does? Cofion at bawb yn ardal Harlech.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy