BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Elen ac Aled ym MerlinTrip Cinio Caru i Berlin
Mehefin 2005
Yn ddiweddar, fe dderbyniais her Anti Alma i fynd ar y rhaglen Cinio Caru! Es i ar y rhaglen am hwyl a mi ddewisodd Aled fi i fynd i Berlin am benwythnos!
Wel, pam lai, meddyliais! Trip am ddim - wel, sôn am hunllef!

Doeddwn i ddim wedi cymryd ato yn y cinio, hyll ei geg, dydy 'love at first sight' ddim yn bodoli nad ydy? Wel, yn sicr nid oedd yma rhwng fi ac Aled. Ond es i ar y trip.

Yn gyntaf roedd Berlin yn wych, yn fawr ac yn le hanesyddol. Aethom i weld y wal, dychrynllyd wrth feddwl mai dim ond pymtheng mlynedd sydd ers iddi ddod i lawr.

Mi wnes i ddreifio car 'Trabi' o amgylch y ddinas ... wel, sôn am glec! Dwi byth am ddreifio dramor eto!

Aethom i fyny'r tŵr uchel i weld y ddinas, roedd yr olygfa'n ffantastig. Bechod bod fi ac Aled wedi cael ffrae cyn mynd i mewn i'r tŵr!

Cawsom ddiwrnod mewn bragdy ar ôl noson yng nghlwb nos mwyaf poblogaidd Berlin; lwcus fy mod yn hogan nobl, de, neu fuasa Aled dal yno rŵan.

Cawsom wersi salsa ac O! dwi'n cochi wrth feddwl am y peth! A'r caraoci ... o, plîs bod nhw wedi ei dorri o'r ffilmio!

Roedd yn brofiad unigryw i ddweud y gwir. Roeddwn yn teimlo braidd yn gas oherwydd mi wnes i'n siŵr bod y criw ddim yn fy ngadael ar ben fy hun efo Aled ac mi roedd yn swnian am hynny wrtha'i ... wps!

Mae'n siŵr eich bod wedi dyfalu bellach, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng Aled a fi bellach! Roedd y criw yn grêt a chefais hwyl gyda nhw ond am Aled ... pwy ydy Aled?

Yn wir i chi roedd pob dim yn mynd o'i le - a dim actio oedden ni - rhaglen lawn comedi. Gwyliwch a mwynhewch!

Elen x


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy