| Hwn oedd y tro cyntaf ers 1983 i'r Rali gael ei chynnal yn Ardudwy. Y clwb a ddaeth i'r brig oedd Cwmtirmynach. Cafwyd llawer o hwyl yn coginio, gosod blodau, cneifio, adnabod nodau clustiau a rhannau o hen beiriannau yn ogystal â ras cadair sedan, taflu welington a 'treialon cŵn defaid' . Diolch i bawb a fu'n helpu paratoi o flaen llaw, hefyd i Frigâd Dân Harlech am eu cymorth, i bawb fu'n cynorthwyo ar ddiwrnod y rali, a hefyd gyda'r gwaith o glirio a chludo popeth ar y diwedd. Gyda diolch arbennig i Deulu Ystumgwern am eu caredigrwydd a'u parodrwydd i'n cynorthwyo drwy gydol y cyfnod yma. Cafwyd dawns y Rali ym Maes Artro trwy garedigrwydd Mr a Mrs Green. Roedd yr adloniant dan ofal y DJ Bustach, a phawb wedi mwynhau'r noson. Ar y nos Sul cynhaliwyd Gymanfa Ganu yng Nghapel Horeb dan arweiniad Mrs Geunor Roberts, Dinas Mawddwy a Mr Edward Owen yn cyfeilio. Cafwyd eitemau gan Gantorion Enddwyn a Chôr Meibion Ardudwy. Ein diolchiadau i bawb. Felly, hoffem ddiolch unwaith eto i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd i wneud Rali Ardudwy yn un llwyddiannus. Oddi wrth Aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Ardudwy.
 |