BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
William OwenGolygydd newydd y Cymro
Rhagfyr 2006
Golygydd newydd Y Cymro, y papur wythnosol, yw William H Owen neu Wil Pantgwyn i bobl ardal Dyffryn sy'n ei gofio.
Ym Mhantgwyn, Dyffryn y cafodd ei fagu ac yno y bu ei gartref nes i'w fam symud i Branas wedi iddo golli ei dad.

Bu'n byw ym Mangor ers 30 mlynedd.

Efo'r Cymro y dechreuodd ei yrfa newyddiadurol. Penderfynodd fynd i fyd papurau newydd ar ôl iddo fod yn athro ysgol am ddwy flynedd. Ond yn nwfn yn Ardudwy y mae ei wreiddiau.

Aeth i Ysgol Gynradd Dyffryn ac Ysgol Ardudwy Harlech cyn mynd i'r Coleg Normal, Bangor. Wedi bod yn athro yn Birmingham ymunodd â'r Cymro pan oedd y papur yn eael ei gyhoeddi yng Nghroesoswallt (Oswestry).

Symudodd i weithio gyda'r BBC ym Mangor lle bu'n ohebydd, yn gyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni newyddion Radio Cymru. Oddi yno aeth i weithio i'r rhaglen Hel Straeon yng Nghaernarfon cyn iddi ddod i ben. Aeth yn ôl i'r BBC i weithio yn yr adran wybodaeth cyn ymddeol.

Eleni dechreuodd weithio yn rhan amser i'r Cymro yn eu swyddfa ym Mhorthmadog. Pan adawodd y golygydd ym mis Hydref cafodd wahoddiad i wneud y gwaith yn ei le.

Meddai: "Doeddwn i 'rioed wedi meddwl gneud gwaith o'r fath. Ond mae hi'n fraint fawr cael gofalu am y papur yr oeddan ni'n brynu gan Elinor Post yn Awelon ers talwm. Dim ond Y Cymro a'r Cambrian News oeddan ni'n gael o'r pentyrrau mawr o bapurau oedd ganddi ar y cownter. Roeddwn i'n ennill hanner coron weithiau gan Dewyrth Tom.

"A dwi'n cofio 'nhad yn ennill 'Ble mae'r Bêl?' yn y pumdegau, yn rhannu'r £50 efo rhywun o ochrau Caernarfon. Roedd £25 yn bres mawr amser hynny!"

Mewn ateb i'r cwestiwn faint sy'n prynu'r Cymro erbyn hyn dywedodd: "Dim hanner digon!"

Y cwmni sydd piau'r Cambrian News yw perchnogion Y Cymro hefyd ers dwy flynedd. Y rheolwr cyffredinol sy'n gofalu am y ddau bapur yw Lis Owen Jones, Lasynys Fach gynt, un arall a fu yn Ysgol Ardudwy, ond rai blynyddoedd ar ôl 'golygydd newydd Y Cymro!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy