| Daeth bron i 300 o bobl draw i weld y tŷ dros y penwythnos, llawer ohonynt wedi byw neu gweithio yn Egryn yn y gorffennol neu â chysylltiad arall â'r meddiant.
Mae'r gwaith adfer wedi ei wneud ar yr adeilad pwysicaf ar y safle, y prif dŷ, sydd wedi ei adeiladu o amgylch gweddillion tŷ neuadd braf o ddiwedd y canoloesoedd, yn dyddio o 1510.
Roedd ymwelwyr yn gallu gweld camau olaf y gwaith adfer a siarad â'r adeiladwr a'r curadur am y technegau a ddefnyddiwyd. Roedd archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd wrth law i siarad am rai o'r anheddau hynaf.
Meddai'r Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr Jane Richardson: "Hoffem ddiolch i bobl am eu diddordeb yn arbennig y rhai sydd wedi adrodd eu hanes wrthym am Egryn yn y gorffennol, wedi benthyg lluniau i ni, neu wedi cyfrannu arian i'n helpu i adfer rhannau arall o'r meddiant. Gobeithiwn adfer yr hen ffermdy, y cladd tatws a'r felin ddwr yn y dyfodol."
Os oes gennych chi straeon difyr am Egryn, cysylltwch â Jane ar 01766 510120.
 |