BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ardudwy
Gwyl y Celfyddydau, Theatr y Ddraig
17 Hyfref 2003
Rhai o'r gynulleidfa ar ddiwedd noson triawd Aled gydag Aled Wyn Davies, Aled Lewis a Karina Parry. Noson o ganeuon a darllen ar y nos Wener.
Bu'r Wyl yn cael ei chynnal yng nghanol gwaith sydd yn digwydd yn y Ganolfan. Cafwyd cydweithrediad da iawn rhwng y pwyllgor a gweithwyr Jamie Brooks, a phawb yn fodlon gyda pheth anhawster, gan fod yr adeilad yn gwella bob dydd.

Pleser oedd cael ein llywydd newydd Joan Wyn Hughes i agor yr wythnos, a noson o fiwsig Ivor Novello yn dilyn. Wedi hynny roedd noson Elizabeth Ellis, gydag Iwan Parry a John Eifion yn swyno'r gynulleidfa gyda'u canu a'u hiwmor.

Bron dros nos, daeth clwb Bermo Arts ymlaen i wneud noson liwgar ar y nos Fercher. Yr un diwrnod yr oedd Cinio'r Wyl yn Bae Abermaw, a'r siaradwr Siôn Llwyd Hughes yn rhoi cipolwg inni ar ddyfodol y celfyddydau yng Ngogledd Cymru. Mae Siôn yn wr i Sally, Cadel Betti a'r ddau yn byw yn Llangollen.

Bore dydd Iau yr oedd Sefydliad y Merched yn dangos eu crefftwaith gyda phaned a sgonsen edmygwyd y gwaith yn fawr. Enillwyd y raffl gan Betty Morris, Gretta Jones, Lorraine Stockford a Lyn Gardner.

Yn hwyrach ddydd Iau, noson o jazz oedd yn y theatr gan rai o sêr adnabyddus o Lundain. Ar y nos Sadwrn daeth y nifer fwyaf i fewn i'r Theatr i wrando ar Honor Blackman yn portreadu nifer o ferched enwog.

Diolch i bawb a fu'n cefnogi'r pwyllgor gweithgar, ac yn enwedig y busnesau lleol am eu cefnogaeth ariannol.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy