Yn wir dyma yw un o drysorau'r genedl sydd erbyn hwn yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn cael ei ddiogelu am genhedloedd i ddod. Mae'n siŵr bod nifer o'r darllenwyr yn gwybod lle mae Egryn .ac wedi pasio heibio yn aml, ond faint ohonom tybed sydd
yn gwybod am hanes ddiddorol yr adeiladau ac am ysblander y tŷ
hynafol.
Saif Egryn nepell o
bentref Talybont ac mi allwch weld y tŷ o'r ffordd fawr.
Mae llwybr cyhoeddus yn pasio'r tŷ wrth arwain i fynydd Egryn.
Adeiladwyd y tŷ cyntaf ar y safle yn yr 16eg ganrif gyda neuadd fawr agored, a bu sawl newid iddo yn ystod y canrifoedd.
Adeiladwyd llawr ar draws y neuadd ond mi welir olion y lle tan braf, ac ar y llawr cyntaf gwelir rhai o'r trawstiau hynafol.
Mae yna adeilad arall wrth ymyl yn dyddio mae'n debyg o'r 17eg ganrif. Rhoddwyd yr enw Abaty ar yr adeilad er na fu erioed yn adeilad crefyddol.
Yn y flwyddyn 2000, rhoddwyd yr holl eiddo gan gynnwys yr adeiladau, y tir a nifer o beiriannau diddorol i'r Ymddiriedolaeth yn ewyllys Rodney Byrne.
Dywedwyd bod Mr Byrne yn dipyn o gymeriad ac yn hoff iawn o gasglu hen dractorau ac ati, a phan roddwyd y cyfan ar werth codwyd miloedd o bunnoedd.
Aeth yr Ymddiriedolaeth ati i adfer y tŷ ac yn sicr maent wedi llwyddo i ail-greu ysblander a naws cartrefol y lle.
Mae dodrefn hynafol yn llenwi'r tŷ ond mae'n le cyfforddus a chlyd sy'n cael ei osod i ymwelwyr.
Un o'r darnau diddorol yw copi perffaith o fwrdd o goed derw sydd yn sefyll yng nghanol yr ystafell fwyta.
Os oes awydd gennych dreulio ychydig o amser yn y lle bendigedig hwn, gellir cael manylion gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dylid cofio hefyd bod yna nifer o olion hanesyddol ar dir yr ystad gan gynnwys siambrau claddu o'r Oes Neolithig a elwir yn Garneddau Hemgwm, ac olion o'r Oes Efydd a'r Oes Haearn.
Mae'n debyg bod rhai o'r cerrig a ddefnyddiwyd i godi Castell Harlech wedi dod o chwarel Egryn, ac mae olion clir hefyd o'r hen chwarel manganese.
Yn sicr mae'n werth treulio ychydig o amser yn ardal Egryn i werthfawrogi nid yn unig yr harddwch naturiol, ond hefyd i weld rhai o drysorau'r gorffennol sydd o fewn ein milltir sgwâr ni.