| Bu'r band yn brysur yn chwarae mewn cyngherddau yn lleol ac yn falch o gael Carwyn Evans i'w harwain dros y misoedd diwethaf. Ef oedd wrth y llyw yn y cyngerdd rhagorol a gafwyd yn Theatr Ardudwy, nos Fawrth 20 Rhagfyr.
Diolchwyd yn gynnwys iawn iddo am ei waith ac am ei barodrwydd i ddal ati hyd nes byddwn wedi sicrhau olynydd.
Un o ragoriaethau'r noson oedd gweld dau fand ifanc ar y llwyfan, y naill wedi ei arwain gan Ms Ceri Griffith, Llanfair (y band bach) a'r llall (y band ieuenctid) yn cael ei arwain gan Mrs Heulwen Noble Williams. Mae'n sicr y bydd dyfodol disglair tra pery gweithgarwch y bobl ifanc. Gwych iawn yn wir! Bu'r band arall yn ardal Harlech ar fore'r Nadolig, traddodiad sy'n werth ei gadw onide?
Diolch hefyd i Mr Gwylfa Davies, Gwesty'r Castell, am ei rodd garedig o £250 tuag at y coffrau.
Bydd y seindorf yn chwarae yng nghystadleuaeth bandiau Cymru yn Abertawe ym mis Mawrth. Hei lwc iddyn nhw.
 |