Dringo'n uchel Mehefin 2009 Pob dymuniad da i Margery Warren, Tŷ'n Llidiart Mawr, Pensarn ar gyrraedd penblwydd arbennig yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae Margery wedi arfer cerdded llawer iawn ar y mynyddoedd ac yn ddiweddar cyflawnodd un uchelgais fu ganddi ers blynyddoedd, sef cyrraedd Clogwyn Du'r Arddu ar y Wyddfa a chael gweld lili brin yr Wyddfa yn tyfu ar y graig noeth.