| Ar ddydd Gwener 4ydd Medi bu Helen Jones, merch Mair Jones, Epworth, ar y plinth am awr. Tynnodd sylw at waith SANDS, y gymdeithas gefnogi rhai sydd wedi colli babanod tra'n feichiog. Bu i Helen fwynhau'r profiad yn fawr. Yr oedd y tywydd yn braf ac amryw yn gyrru neges destun iddi a chael cyfweliad byw ar Radio Amwythig. Gwerthfawrogodd hefyd gefnogaeth Gwenfair Jones, gynt o Harlech, sydd yn byw yn Llundain ac a gymerodd amser i fynd i Sgwâr Trafalgar trwy gydol yr awr i fod yn gwmni iddi.
 |