| Braf oedd deall ar ddechrau blwyddyn fel hyn fod Neuadd Gymuned Talsarnau wedi bod yn llwyddiannus ac wedi derbyn grant oddi wrth Y Gronfa Loteri Fawr - Arian i Bawb - swm o £4,492 er mwyn diweddaru'r offer cyfrifiadurol yn y neuadd. Pan agorwyd y Neuadd Gymuned Newydd yn 2002, rhan o'r ddarpariaeth oedd ystafell hyfforddi ac ynddi 10 o gyfrifiaduron. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae llawer iawn o unigolion wedi derbyn hyfforddiant - rhai ar lefel sylfaenol ac wedi cael rhoi troed ar gamau cyntaf yr ysgol fel pe tae; llawer wedi dod ar draws y we am y tro cyntaf ac eraill wedyn wedi cael cyfle i feistroli ar lefel uwch ac wedi dilyn cyrsiau megis Y Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL).
Ar lefel wahanol, mae plant yr ysgol gynradd wedi gallu cymryd mantais o'r ddarpariaeth, lle mae cyfle iddynt fod yn gweithio fel dosbarth a chael gweithio fesul parau ar y peiriannau. Mantais sylweddol yw cael un peiriant i bob dau blentyn mewn dosbarth.
Bu'r cyfarpar hefyd yn ddefnyddiol iawn yn gymdeithasol i'r bobl ifanc hynny sydd wedi bod yn dod i weithio am gyfnodau byrion i westy Maes y Neuadd. Pobl ifanc ydynt o wledydd tramor ac wedi cael budd o allu cysylltu â ffrindiau ac anwyliaid adref yn eu gwledydd eu hunain drwy ddefnyddio'r cyfrifiaduron. Bu iddynt wneud defnydd cyson a rheolaidd o'r cyfarpar a braf ydy i ninnau allu cynnig y gwasanaeth yma iddynt.
Budd arall a ddaeth i'r ardal yn sgil yr adnoddau a'r dechnoleg fodem oedd sefydlu Safle WE Ardal Talsarnau - www.talsamau.cymru.org lle mae llawer un sydd yn byw ymhell neu'n agos yn gallu troi i mewn ac edrych neu ddarllen am wahanol agweddau ar fywyd o fewn ein hardal ni.
Ym mhwyllgor cyntaf 2010 yn ystod mis Ionawr, cyflwynwyd yr wybodaeth am lwyddiant derbyn y grant. Cafodd y newydd dderbyniad cynnes gyda'r sicrwydd y bydd y peiriannau newydd yn abl i wynebu her y datblygiadau diweddaraf ym myd y dechnoleg fodern a phan gyfyd cyfle i redeg cyrsiau fe fydd yr adnoddau ar gael.
Dymuna'r pwyllgor gydnabod y grant a dderbyniwyd oddi wrth Gronfa'r Loteri Fawr - Arian i Bawb.
 |