| Trafaeliodd y côr mewn dau fws o Lerpwl, a dewiswyd aros mewn gwesty yn ninas hyfryd Koblenz. Dinas wedi ei sefydlu lle cyfarfu dwy afon fwyaf yr Almaen sef y Rhine a'r Mosel. Cyrraedd yn flinedig nos Lun a'r tywydd ar ei waethaf, pawb wedi mwynhau y gwmnïaeth oddieithr y rhai mwyaf gwantan eu hysbryd a fanteisiodd ar Easy Jet i fyrhau'r daith!! Cwsg da, brecwast cynnar, a rihyrsal am 8.15am bob bore oedd patrwm ein boreau am weddill y dyddiau. Ond yn gyntaf, gyda'r tywydd nawr yn rhagorol cawsom afondaith (cruise) o awr ar y Rhine, a gweled golygfeydd ysblennydd, heibio y Lorelei, a thrafaelio wedyn i dref hyfryd Rudesheim i dreulio y pnawn yno cyn dychwelyd i Koblenz. Cynnal ein Cyngerdd cyntaf yn yr hwyr i gynulleidfa gref yn Eglwys "Kirche Moselweiss" ar lannau'r Mosel. Yr oedd y côr wedi paratoi gweithiau gan Handel, Britten, Tavener, Arwel Hughes, Hammerschmidt, Mendelssohn, Rutter a Karl Jenkins. Y cyfan dan ofal medrus ac amyneddgar ein harweinydd Keith Orrel a'n cyfeilydd Steven Hargreaves. Dydd Mercher oedd yr uchafbwynt a'r prysuraf o'r daith. Taith awr i Eglwys Gadeiriol Cologne i ganu yn yr Offerem ganol dydd. Yr oedd cael gweld a bod yn y Gadeirlan fwyaf hyfryd yr Almaen yn brofiad arbennig ynddo ei hyn heb sôn am y fraint o gael canu oddi mewn iddi. I gofio'r achlysur cyflwynodd y côr 'gwilt' o waith unigryw yr aelodau i'r Gadeirlan ac mi fydd hwnnw i'w weld ar gof a chadw yn y Gadeirlan. Cyhaliwyd cyngherddau yn Eglwysi All Saint Anglican yn Marienbad ac hefyd yn Saint Augustine of Canterbury Wiesbaden. Cafwyd eitemau ychwanegol ardderchog gan gorws bychan Madrigal yn cyflwyno gwaith Weelkes ac hefyd parti penillion Cymreig traddodiadol dan ofal Margaret Annwyl Williams. Dangosodd Steven Hargreaves ei ddawn arbennig ar yr organ yn ei gyflwyniad o 'The arrival of the Queen of Sheba'. Cafwyd perfformiad aruchel gan Neil Jackson ar y Viola fel rhan o gyflwyniad i'r Benedictus o waith Karl Jenkins. Yn wir, creodd awyrgylch mor deimladwy yn ei berfformiad nes tynnu deigryn o lygaid un neu ddwy o'r côr ac hefyd y gynulleidfa. Dyna daith i'w chofio. Rhaid cael un arall. Roderick Owen
 |