| Paratowyd lluniaeth i bawb a daeth 82 ynghyd i'r drafodaeth. Diddorol oedd y cwestiynau a ofynwyd gan aelodau o'r gymdeithas y ddwy ochr i'r afon Mersi.
Pwy fyddai'n meddwl cael pob aelod o'r Panel yn cytuno mae da fyddai cael yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl neu ar gyrion y ddinas (e.e. Aintree) ym 2007.
Dŵr dan yr afon a eira llynedd, er hynny, hynod o ddiddorol. Camp oedd cael croesdoriad mor dda o'r ifanc, canol oed, a'r hyn, a mynegwyd barn gan bawb gydag argyhoeddiad mewn Cymraeg coeth. Gosododd y rhaglen Cymry'r Glannau ar y map a dyma argoelion da ar gyfer blwyddyn wych eleni yng ngweithgareddau Cymry Lerpwl.
 |