Yn ôl Gerald Williams, nai i'r bardd, mae angen to newydd ac mae problemau gyda lleithder yn ffermdy Yr Ysgwrn ar gyrion Trawsfynydd. Dywed Mr Williams, sy'n 80, ei fod yn poeni am y tŷ a'r gadair Eisteddfodol "unwaith i fi adael".
Mae'n dweud iddo gysylltu a Chadw a'r Loteri Genedlaethol, ond yn aflwyddiannus hyd yn hyn.
Roedd Hedd Wyn yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac enillodd y gadair yn Eisteddfod Penbedw yn 1917.
Ond cafodd ei ladd ar Orffennaf 31,
1917, wythnosau cyn bod yn fuddugol gyda'i awdl i'r Arwr.
Ers hynny cyfeiriwyd at yr eisteddfod ym Mhenbedw fel Eisteddod y Gadair
Ddu.
Bu Yr Ysgwrn yn gartref y Gadair Ddu ers i'r bardd ei hennill 90 m1ynedd yn ôl.
Yn y ffermdy y cafodd y bardd, Ellis Humphrey Evans, ei eni a'i fagu.
Mae Mr Williams wedi gwe1d cynnydd yn nifer yr ymwelwyr eleni.
"Y tro diwethaf roedd yr Eisteddfod yn Y Ba1a roedd tua 200 o ymwelwyr yma", meddai Mr Williams, ond ni chafodd y cyfle i fynd i'r Eisteddfod.
"Dwi wedi cael fy ngwahodd i'r orsedd ond dwi wedi gwrthod. Yma fydda i, heblaw am daith fach i'r farchnad.
Dwi'n cael pob math o ymwelwyr yma, fel dau o lysgenhadaeth Ffrainc yn Llundain, twrnai o Caint a dau o Batagonia a'i hiaith yn bur, heb fratiaith."
Nid oes trydan na dwr nac ystafell ymo1chi yn y tŷ, ond mae Mr Williams wedi cysgu yno pob nos ers 1945, ac yn parhau i ffermio yno, gan fagu defaid Cymreig a gwartheg duon Cymreig.
"Dymuniad yr hen wraig (mam Hedd Wyn) oedd i ni gadw'r drws ar agor.
"Bydda i'n cadw'r drws ar agor i ymwelwyr tra bydda i ond be fydd yn digwydd wedyn, dwn i ddim."