Digwyddodd cymaint yn ein hanes ers y flwyddyn 1979, ond mae'r angor wedi dal y llong yn solet ym mhob tywydd. A deil Yr Angor yn lwyfan ardderchog i Gymry Glannau Merswy a Manceinion a'r Cyffiniau. Deil Yr Angor i gofnodi, i gofio, i gysuro, i gnoi cydwybod, i atgoffa'r Cymry o'r cyfarfodydd. Wrth edrych yn ôl mae gwrthwynebiad a diffyg menter rhai, ddeg mlynedd ar hugain yn ôl yn yr Eglwys Fethodistaidd yn Renshaw Street yn taro'n chwithig dros ben:
'Waeth i chi heb...rhaid cael hysbysebion i'r papur bro os yw am fyw - a phwy sy'n mynd i hysbysebu, mae'r Cymry wedi peidio â masnachu yn Lerpwl a Phenbedw.'
Llais arall, un a fu ar Fwrdd Golygyddol Y Bont, yn onest ddigon yn dweud:
'Mae hi'n hawdd iawn dechrau - dal ati ydi'r gamp. I lawr yr â hwn eto 'run fath ag eraill o'i flaen'.
Ond dathlwn yn y rhifyn hwn derfyn cyfnod hir o ddeg mlynedd ar hugain ac fel yr unig un a fu wrth y fenter ers y rhifyn cyntaf hoffwn lefaru tri pheth am Yr Angor, ddoe a heddiw.
1. Cydnabod y wyrth
Mae hi'n wyrth (dyna'r unig air) a diolchaf i Dduw am nerth i olygu 360 o rifynnau o'r Angor, ac am gael cyfle i lunio 300 o nodiadau Golygyddol ar bob math o destunau amrywiol. Diolch hefyd imi lwyddo i fynychu pob Pwyllgor Gwaith o 1979 i 2009, a bron pob un ohonynt yn Ystafell y Gweinidog Capel Bethel, Heathfield Road, Lerpwl. Bum yn hirach fel Golylygydd na neb arall o'm rhagflaenwyr ar y Glannau, er enghraifft y Parchedig R. Maurice Williams, Waterloo, a fu am ugain mlynedd fel Golygydd y Bont sy'n record da.Ceisiais feithrin dawn ysgrifennu Cymry y dalgylch, a dyna at ei gilydd yw rhan helaethaf o'r papur bro bob mis. Yn 1979 yr oedd adran Cymdeithasau a'r Capeli yn asgwrn cefn y papur. Deil felly o hyd er fod y nifer wedi lleihau yn ddirfawr. Ond hwy ydyw asgwrn cefn ein cyhoeddiad , yr adroddiadau o Seion, Penbedw; Bethania, Waterloo; Bethel, Heathfield Road; Noddfa, Manceinion; Cymdeithasau Cymraeg Lerpwl, Penbedw a Manceinion, saith adroddiad a ddaw yn gyson, a mawr yw fy niolch iddynt. Asgwrn cefn arall yw lluniau gwerthfawr Dr John G. Williams, Elwyn Evans a'u tebyg.
2. Cydnabod y cydweithwyr
Llwyddwyd am 30 mlynedd i gael Pwyllgor Gwaith gwerthfawr. Ie ar hyd y blynyddoedd bu hyn a chawn gefnogaeth sylweddol o Fanceinion a Phenbedw. Braf yw gweld Mrs Lois Murphy a Mr Ron Gilford o Fanceinion ym mhob Pwyllgor Gwaith, felly hefyd Mr Hywel Jones, Mrs Anne Jones a Mrs Mair Rees Jones o Gilgwri a Phenbedw. Daw Mr Arthur Edwards, Ken Williams, Mair Jones, H. Wyn Jones o Lerpwl i gynnal ein cyfraniad fel Cymry'r ddinas. Ac yna ein swyddogion, E. Goronwy Owen sy'n Gadeirydd delfrydol, Roderick Owen, gofalus a champus fel trysorydd a Ben Hughes a'i gofnodion yn gryno a'i ddosbarthu trwy'r post o fis i fis yn ddibynadwy. Ers gwaeledd William Evans, Dosbarthwr y papur, llwyddodd Roderick a minnau yn ein tro ei gludo o'r argraffwyr yn Y Bala a'i ddosbarthu yn eang. Bu'r argraffwyr, Gwasg y Sir, Neuadd y Cyfnod, yn gwrtais a chyfrifol i ni ar hyd y blynyddoedd, er mai yn Nyffryn Nantlle y cychwynwyd ei argraffu. Mae hiraeth arnaf am y rhai a fu'n cydweithio fel swyddogion ac aelodau o'r Pwyllgor Gwaith ac sydd bellach yn y cwmwl tystion. Mawr fu eu cyfraniad hwythau a melys yr atgofion am y cydweithio heintus.
3. Cydnabod haelioni y darllenwyr a'r caredigion
Heb haelioni 'Cornel y Trysorydd' mi fyddem mewn trafferthion ariannol dybryd. Cofiwch mai deugain ceiniog yw'r pris o hyd a dyna fydd ef am 2009-10 er fod pris yr argraffu wedi codi £100 y flwyddyn hon. Bu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn allweddol, felly hefyd Henaduriaeth Lerpwl, ond bellach ni ddaw dim o'r ffynhonnell honno. Ond beth am helaethu'r cylchrediad? Tybed a oes derbynwyr yn gwybod am Gymry nad ydynt yn ei dderbyn ond a fyddent yn debygol o wneud a'i gael trwy'r post am £7 y flwyddyn?