Y mudiadau a fynegodd eu bwriad i ymgyrchu ydyw Merseyside Civic Society, Liverpool Heritage Forum a Save our City Campaign o dan arweiniad Florence Garsten, aelod o Wavertree Historical Society ac un â wrthwynebodd Datblygiad Heathfield Road yn yr Apêl Awst 2005. Ymysg yr adeiladau a ddylid eu gwarchod enwir y rhain yn y wasg:
i. P. Galkoff yn Pembroke Place - siop bwtsiar kosher.
ii. Tafarn y Botanic yn Wavertree Road.
iii. Tai teras yn Newby Street, Kirkdale.
iv. Sinema Futurist yn Lime Street.
v. Sandfield Park yn West Derby.
vi. Capel Cymraeg Bethel, Heathfield Road. Lerpwl Pan ofynwyd i weinidog Capel Bethel, Dr D. Ben Rees a Golygydd yr Angor fe gafwyd y datganiad hyn: "Deallaf yn iawn deimlad y tair Gymdeithas ac nid oes neb ohonom ar Bwyllgor Strategaeth a Stiwardiaeth Bethel am newid tirlun Bethel ond nid yw'r dewis gennym. "Pe bae y mudiadau hyn yn dweud wrthym, arhoswch lie rydych ac fe gewch ugain mlynedd y flwyddyn am y deg mlynedd nesaf i aros lie rydach byddai pawb yn croesawu'r symudiad. "Mae'n rhaid i Merseyside Civic Society, Liverpool Heritage Forum a Save our City Campaign fod yn realistig pan yn sôn am adeilad sy'n dal 750 o unigolion, â'r gynulleidfa ar Sui dda dim mwy na 70, gan ddisgwyl y gymuned honno i ddal ati heb help ariannol o'r tu allan i'r Gymdeithas. "Credaf hefyd y dylai Y Gymdeithasau hyn drefnu ein gweld ac nid llunio erthyglau i'r Liverpool Echo heb gysylltu â ni ar fater ein dyfodol."
 |