Mwynheais yn fawr y wledd a drefnwyd ar ddydd Sadwrn, 22 Hydref a Sul, 23 Hydref. Croesawyd pawb bore Sadwrn i Ysgoldy Bethel, Heathfield Road, Lerpwl gan gadeirydd a sylfaenydd y Gymdeithas, Parchedig Ddr. D. Ben Rees.
Cyn hynny roedd y piano newydd gyrraedd ar gyfer y cyngerdd y noson honno. Roedd yr Ysgoldy yn gysurus iawn pan gododd Elan Jones, Mossley Hill ar ei thraed fel cadeirydd y sesiwn cyntaf. Anrhydeddwyd hi fel yr unig un o'r Wladfa sy'n byw bellach yn ein plith fel Cymry Lerpwl ac fel y dywedodd Dr Rees, mai hi yn dod o deulu yr arloeswr mawr ei hun, Edwin Cynrig Roberts a fu yn barod i wireddu y freuddwyd o'r Wladfa. Elan Jones hefyd yw Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru Ariannin a cheir cyfweliad diddorol iawn ohoni yn y llyfryn `Cofio Mimosa' (Lerpwl, 2005).
Gareth James, Aintree a'r ddarlith gyntaf
Cyflwynodd Elan Jones ein darlithydd cyntaf sef Gareth James, Aintree, athro ysgol wedi ymddeol ond cyflwynydd gwerth gwrando arno. Paratodd yn ofalus ei ddarlith ar gefndir yr ymfudo i'r Wladfa gan ddelio mewn manyldeb gyda phobl anturiaethus fel Lewis Jones, Michael D. Jones a Edwin Cynrig Roberts. Cyflwynodd y cyfan mewn Cymraeg godidog yr hanes nes ein gwefreiddio. Daeth y teledu i gael 'golwg arnom a gwelwn Gareth James yn cael ei holi gan Nia am ei gyflwyniad. Cafwyd toriad a chyfle i sgwrsio gyda'r ymwelwyr - o Ynys Môn, o Sir Caernarfon, o Aberystwyth (Ceris Gruffydd) o Aberdâr (D. Leslie Davies) o Burton on Trent, o Lundain, o Saddleworth, pob un wrth eu bodd yn yr ŵyl.
Susan Wilkinson o Toronto - ail ddarlith
Cyflwynodd Dr D Ben Rees yr ail siaradwraig sef Susan Wilkinson o Toronto, Ontario, Canada. Darlithiodd hi yn Saesneg trwy gymorth y power point gan roddi manylion am berchenogion y llong Mimosa a'r teithwyr oedd arni. Rhoddwyd cyfle i nifer ofyn cwestiynau iddi a chafwyd cyfle i danlinellu pwysigrwydd y llyfryn a gafodd nodded yr Angor, sef 'Cofio'r Mimosa'. Cafodd pawb ohonom ychydig amser i baratoi ar gyfer ail sesiwn fawr yr wyl, sef cyngerdd Dwyieithog gan Côr Meibion Rhosllanerchrugog o dan arweiniad John Daniel. Cyflwynwyd eitemau'r Côr gan Harold Richards a chawsom unawdydd godidog ym mherson Mr Glynn Morris, Manceinion. Chwaraewyd iddo gan Mrs Margaret Anwyl Williams a gwnaeth ei gwaith yn dda.
Llywydd newydd
Llywydd newydd y Gymdeithas Etifeddiaeth ydyw golygydd y Liverpool Echo, Sgotyn sy'n arddel y Gymraeg Alistair Machray. clywsom ef yn ein hannerch yn yr iaith a thalodd Dr D. Ben Rees deyrnged uchel iddo. Gwnaed sylw hefyd o'r blodau, y Mimosa, a allforiwyd o Amsterdam, rhodd Mrs Gwen Jones, Allerton.
Yr oedd yr ail ran mor odidog a'r rhan gyntaf a chlowyd y cyngerdd gyda nodau Hen Wlad fy Nhadau. Darparwyd gwledd yn yr Ysgoldy gan y Gymdeithas mewn cydweithrediad â chwiorydd Capel Bethel.
Estynnwyd gwahoddiad hefyd i'r ymwelwyr oedd yn treulio penwythnos yn Lerpwl oherwydd yr Ŵyl.
Ar fore Sul, 23 Hydref daeth cynulleidfa deilwng iawn i Oedfa'r Mimosa o dan arweiniad Mr. H. Wyn Jones, Llywydd Henaduriaeth Lerpwl. Dyma oedfa i'w thrysori a chafwyd darlleniadau o'r Ysgrythur, emynau addas, adroddiadau o waith beirdd y Wladfa, llythyr o waith Eluned Morgan, merch Lewis Jones a phedwarawd Bethel yn canu dau emyn, sef Mri R. Ifor Griffith, Roderick Owen, Rhiannon Liddell ac Anne M. Jones.
Cymerwyd rhan gan y Llywydd, a hefyd Beryl Williams, Dr. Pat Williams, Nerys Glyn Morris a Margaret Anwyl Williams Brooks, Nan Hughes-Parry, Dr. Arthur Thomas, minnau, E. G. Owen, Rachel Gooding, y Gweinidog, ac ef a draddododd anerchiad ar lenor pennaf y Wladfa, Eluned Mogan (1870-1938) a anwyd ar fordaith y Myfanwy yn Bay of Biscay yn 1870. Roedd y neges oddi wrthi hi drwy Dr. Rees yn berthnasol iawn i ni heddiw.
Roedd Mrs. Margaret Anwyl Williams yn affaeliad mawr wrth yr organ. Aeth pawb i'w ffordd ei hun wedi cael eu bodloni, a dedfryd Hywel Heulyn Roberts o Synod Inn, Ceredigion oedd: 'Ardderchog - llawer o ddiolch'. Mynegodd deimlad pawb ohonom.
John G. Williams