BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Cymry ManceinionNoson o Adloniant Amrywiol ym Manceinion
Mehefin 2008
Dyma ni Gymry Manceinion wedi llwyddo unwaith eto i gynnal Noson o Adloniant gyda digon o frwdfrydedd ymysg yr aelodau.

Eleni ychwanegwyd rhai eitemau cystadleuol i greu mwy o awyrgylch Eisteddfodol.

Cawsom noson o hwyl a mwynhad yng nghapel Noddfa Oaker Avenue ar nos Sadwrn, Mawrth 29, 2008 a hynny yn para am bedair awr. Mae'n diolch yn fawr i Bwyllgor yr Eisteddfod o dan arweiniad trylwyr arferol Mrs Anne Hunt am eu trefniadau ac i arweinydd y noson Mr William Jones. Rhyngddynt fe redodd popeth fel waets.

Gwnaeth y plant a'r bobol ifainc hwythau eu cyfraniad graenus arferol. Carys, Megan a William yn adrodd Spectol Taid a Taid yn rhan o'r ddrama wrth gwrs; Sioned ac Owain yn rhannu eu doniau cerddorol ar y piano a'r fiolin ac Owain, ar y tenor horn, yn perfformio trefniant arbennig o'n hanthem genedlaethol. Gellir dibynnu ar Trefor Davies bob amser i ofalu ein bod yn y cywair iawn. Felly eleni eto a'i drefniant ar y 'key-board' o Tros y Garreg i amseriad Salasa. Chododd neb i ddawnsio ond roedd traed ac ysgwyddau'n symud i tempo y miwsig.

Yn ystod y noson roedd mwy o gerddoriaeth i ddod yn ysgafn a chlasurol ar y gitâr a'r clarinet. Bodlonodd Dr Goronwy Wynne, Licswm, i fod yn Feirniad Llên a Chân a daeth digon o oedolion ymlaen i gystadlu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Yn sicr fe'i cadwyd yn brysur. Mawr oedd ei glod am safon ac amrywiaeth doniau Cymry dros Glawdd Offa a mawr ein gwerthfawrogiad o hynawsedd Dr Goronwy Wynne. Fe gellir nodi'r rhai a enillodd y wobr gyntaf yn yr adrannau cystadleuol. William Jones, Altrincham ar y canu emyn i rai dros hanner cant, grŵp lleisiol merched Noddfa, a Lilian Bury, Altrincham yn canu cân werin. Cyflwynwyd 'cadair fach' o saernïaeth Hywel Jones, Deganwy, yn ôl ei ddymuniad, i Lilian Bury ac Eleri Edwards, ein gweinidog, am eu cyfansoddiad o Emyn Dôn. Daeth y gystadleuaeth hon ag atgofion am Emily Evans, Altrincham a enillodd y gadair sawl gwaith ond sy' bellach yn gaeth yn ei chartref ac yn fregus iawn ei hiechyd. Cawsom gyfraniad gwerthfawr Olwen Owen, Blaenor yn Noddfa, sy'n dal i gystadlu a chyfrannu i eitemau cerddorol ac yn naw deg oed eleni. Roedd y cyfraniadau i'r adran len yr un mor amrywiol a chyfoethog. Darllenwyd darnau o farddoniaeth clasurol a digri a chawsom storïau digri. Yn yr adran gystadleuol bu'r ymateb niferus arferol i Llinell Goll ac Anne Hunt yn cipio'r wobr. Anne hefyd a enillodd a'i thelyneg i'r Hydref. Daeth ceisiadau eleni eto i gystadleuaeth y Llinell Goll oddi wrth Mrs Parry, o Garmel a hithau hefyd yn fregus ei chyflwr yn 96 oed. Daliwch ati nain! Gosodwyd y darn cyfeithu allan o 'Neb', hunangofiant R.S. Thomas a Elwyn Evans yn dod i'r brig ac yn derbyn cwpan arian er cof am David Elwy Williams. Dyma'r ymgais, yn nhyb y Beirniad, a roddodd fwyaf o bleser iddo.

Beirniadwyd y cystadlaethau ymarferol gan arbenigwyr ymhlith ein haelodau. Yn yr Adran Ffotograffiaeth gwelwyd Rhyfeddodau o bob rhan o'r byd - o'r Dwyrain i'r Gorllewin a nôl i Fae Colwyn.

Catherine, wyres Glenys a Trefor o Altrincham a chafodd y wobr a'i llun o un o lynnoedd Ynys yr Iâ gan Iestyn Roberts. Cyfaddefodd Hafwen Davies ei bod wedi blasu'r naw Quiche yn yr adran goginio ac er cystal oeddynt un Eirian Roberts, Altrincham oedd y gorau. Ymhlith y naw a grëwyd gan gogyddion proffesiynol daeth ymgais William Smithson, yn ddeuddeg oed, yn ail. Watsiwch hi, Jamie Oliver!

Nid gwaith hawdd yw beirniadu Arlunio plant ac mae'n anoddach byth pan fo naw ohonynt a'u hoed o dair flwydd i ddeuddeg wedi creu cerdyn Pasg. Llwyddodd Mrs Gwyneth Clement i gadw'r ddysgyl yn wastad a rhoi'r wobr i Owain.

Diolchodd yr Arweinydd i Dr Goronwy Wynne ac i'r Beirniaid lleol, i'r cyfeilyddion Trevor Davies, Lilian Bury a Bronwen Jones; i'r Trysorydd Clifford Evans am ei ofal o'r pres; i Joan a William Davies am baratoi paned - ie, hyd yn oed yng nghanol Eisteddfod - ac yn wir i bawb a wnaeth unrhyw gyfraniad i sicrhau llwyddiant y noson. Daeth y cyfan i ben â chôr yr Eisteddfod, hynny yw pawb oedd a digon o anadl ganddynt yn ymuno i ganu "Ai gwir y gair fod elw i mi" ar y dôn Sagina o dan arweiniad Dr. Goronwy Wynne. Cafodd Owain roi ei berfformiad cyhoeddus cyntaf ar y tenor horn i gyfeiliant Trefor Davies yn yr Anthem Genedlaethol.

Noson hynod o lwyddiannus a phawb yn troi am adre - a'r glaw yn dal i dywallt.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy